Dod o hyd i Brentis

Mae Prentisiaeth yn ddull cost-effeithiol o recriwtio a hyfforddi gweithwyr medrus ar gyfer y dyfodol.

Mae prentisiaethau'n ddull cost-effeithiol o recriwtio a hyfforddi gweithwyr medrus ar gyfer y dyfodol. Gall rhoi cyfle i'ch gweithwyr feithrin y sgiliau ac ennill y cymwysterau y mae arnynt eu hangen helpu’ch busnes i gael mantais gystadleuol.

Beth yw prentisiaeth?
Mae prentisiaeth yn cynnwys hyfforddiant mewn swydd a dysgu i ffwrdd o'r gwaith, gan arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.

Beth yw mantais cymryd prentis?
Daw prentisiaethau â budd gwirioneddol i'ch sefydliad, yn cynnwys*:

  • Gwell cynhyrchiant.
  • Staff cryfach eu cymhelliad a mwy bodlon yn eu gwaith.
  • Gweithwyr mwy teyrngar a gwell sgiliau yn y dyfodol.

*Arolwg o Farn Cyflogwyr ar Brentisiaethau (BIS 2014)

Pa brentisiaethau sydd gennym?
Rydym yn cynnig ystod eang o lwybrau prentisiaeth sy'n amrywio o gyfrifeg i amaethyddiaeth. Mae rhestr lawn o'n prentisiaethau ar gael yma.

Pwy all fod yn brentis?
Gellir defnyddio prentisiaethau i hyfforddi recriwtiaid newydd neu i ddatblygu staff presennol, faint bynnag yw eu hoed.

Faint mae prentisiaeth yn ei gostio?
Fel busnes, nid oes raid i chi dalu am gost yr hyfforddiant, dim ond am gost cyflogi'r prentis.

Sut mae cael gwybod rhagor?
Os ydych yn barod i achub ar y cyfle hwn, anfonwch ebost at busnes@gllm.ac.uk a bydd un o'n Hymgynghorwyr yn cysylltu i'ch helpu gyda'r broses, boed i hysbysebu am brentis newydd neu i gofrestru'ch gweithwyr presennol ar y cynllun.

Oeddech chi'n gwybod?
Mae 77% o'r busnesau a hyfforddodd brentisiaid o'r farn fod eu cwmni'n fwy cystadleuol o'r herwydd - Llywodraeth Cymru.