Ariannu
Mae gennym wahanol fathau o gyfleoedd cyllido i gefnogi cyflogwyr a gweithwyr i hyfforddi

Sgiliau ar gyfer Cyflogwyr a Gweithwyr (SEE)
Mae SEE (Sgiliau i Gyflogwyr a Gweithwyr) yn brosiect £16.2M fydd yn darparu rhaglenni hyfforddi ar gyfer busnesau mewn sectorau allweddol ar draws Gogledd Cymru.

Hyfforddiaeth
Os ydych yn ddi-waith a than 19 oed, gallwch ddilyn rhaglen hyfforddeiaeth a gynlluniwyd i ddatblygu’ch sgiliau ac sy'n arwain at swydd, prentisiaeth neu addysg.

Barod am Waith
Os ydych yn 18 oed neu'n hŷn, yn ddi-waith ac yn derbyn budd-daliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae Barod am Waith yn gyfle gwych i chi ddod o hyd i waith neu fynd ymlaen i ddysgu rhagor.

Academi Busnes Gogledd Cymru
Cynlluniwyd Academi Busnes Gogledd Cymru gyda chi mewn golwg. Cewch wybod yn union beth y dylech ei wneud i sicrhau bod eich busnes yn tyfu a’ch llwyddiant yn gynaliadwy.
Gadewch i ni'ch helpu i ganolbwyntio ar ddatblygu strategaeth fusnes ac i greu rhaglen o sesiynau dysgu cryno a phenodol er mwyn i'ch busnes dyfu.

ReAct
Rhaglen ariannu yw'r Cynllun Gweithredu ar Ddiswyddiadau II (ReAct II) ar gyfer hyfforddiant a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i bobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n wynebu'r posibilrwydd o golli'u swyddi.

Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP)
Partneriaeth dair ffordd ydy KTP rhwng y cwmni, y tîm academaidd (y colegau) a'r graddedigion (aelod cysylltiol KTP), sy'n eich galluogi chi i gael arbenigedd a sgiliau a fydd yn helpu eich cwmni i ddatblygu medrau newydd a fydd yn arwain at fwy o elw a chystad.

Twf Swyddi Cymru
Rydym ni yn un o reolwyr asiant ar gyfer Twf Swyddi Cymru, rhaglen sydd wedi ei ariannu gan Llywodraeth Cymru i greu miloedd o swyddi bob blwyddyn i bobl ifanc trwy Gymru.