Tyddyn Isaf Camping & Caravan Park

Mae Tyddyn Isaf wedi ei leoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn edrych dros bae Lligwy ar arfordir ddwyreiniol Ynys Môn, ym mhentref Dulas. Mae pobl wedi bod yn gwersylla ar y safle ers 1946, ac mae’r busnes teuluol wedi ymrwymo ers tro i wneud popeth o fewn ei allu i ddiogelu’r amgylchedd ac adnoddau’r ddaear.

Mae defnyddio goleuadau ynni isel, darparu gorsafoedd ailgylchu, a chymryd cofnod wythnosol o fesuryddion dŵr yn rhai o’r camau rhagweithiol sydd eisoes ar y gweill gan y parc. Yn awyddus i fynd â hyn ymhellach cofrestrodd Tyddyn Isaf ar gyfer yr Academi Ddigidol Werdd i dderbyn cyngor gan arbenigwyr a sicrhau eu bod ar y llwybr cywir i fod yn fusnes hyd yn oed mwy gwyrdd.

Yr her - CYRRAEDD SERO NET erbyn 2030
Mae Hayley Mount-Leonard, un o berchnogion y parc, yn amlinellu gweledigaeth amgylcheddol y cwmni: “Yn Tyddyn Isaf rydym yn ystyried cadwraeth fel ffordd o fyw, a dros y blynyddoedd rydym wedi ymdrechu i wneud ein parc mor wyrdd â phosibl, gan anelu at sicrhau cydbwysedd o reolaeth dda wrth gynnal a chadw’r amgylchedd naturiol lle bynnag y bo modd.” Nwy propan a’r defnydd o danwydd ffosil ar gyfer gwresogi sy’n cyfrannu fwyaf at allyriadau carbon Tyddyn Isaf. Mae defnydd helaeth o drydan hefyd yn cael ei ystyried fel cyfran fawr o ran allyriadau ar y safle. Gyda’u hadroddiad Academi Ddigidol Werdd wedi’i gwblhau, gall y busnes nawr fynd i’r afael â’r meysydd hyn wrth anelu at sero net erbyn 2030.

Beth mae’r arbenigwyr yn ei ddweud - MYND I’R AFAEL AG ALLYRIADAU
Mae tîm Tyddyn Isaf yn gweithio i leihau ei ôl troed carbon yn barod – gyda goleuadau LED, goleuadau awtomatig, a phaneli solar i wefru cerbydau trydan ar y safle. Mae rhai o’r argymhellion ychwanegol sy’n cael eu hargymell yn cynnwys gosod paneli solar ychwanegol i leihau costau yn ogystal ag ystyried opsiynau ar gyfer codi tâl am gyswllt trydan i garafanau a phebyll. Argymhelliad arall a gododd o’r astudiaeth oedd edrych ar wneud estyniad posibl i’r coetir ar y safle er mwyn gwrthbwyso carbon yn ogystal ag ymchwilio i dariffau ynni adnewyddadwy.

Y canlyniad - LLWYBR I LEIHAU CARBON
Mae Hayley yn credu y bydd yr adroddiad yn fuddiol i’w busnes teuluol: “Rydym yn falch bod yr adroddiad yn cydnabod y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud ar y safle i leihau hallyriadau. Diolch i’r arbenigedd a gafodd ei ddarparu drwy’r Academi Ddigidol Werdd, mae ein camau nesaf i gyrraedd sero net yn glir, wrth i ni anelu at wneud mwy er lles yr hinsawdd a’r amgylchedd.”

Eisiau gwybod mwy neu gymryd rhan yn y prosiect?
Cysylltwch digidol.gwyrdd@gllm.ac.uk |08445 460 460