Mona Lifting

Un o’r cwmnïau cyntaf i dderbyn y gefnogaeth oedd Mona Lifting o Langefni - un o fusnesau peirianneg mwyaf blaenllaw Gogledd Cymru. Wedi ei sefydlu yn 2005, caiff y cwmni ei yrru gan ei gwerthoedd - sef gofal, ansawdd, gwasanaeth a chyfrifoldeb. Maen nhw’n angerddol dros ddiogelu’r amgylchedd yn ogystal â buddsoddi yn eu pobl a’r gymuned leol. Dyma pam roedd Gethin Jones, y Cyfarwyddwr Gweithredu mor awyddus i ymrwymo i’r Academi Ddigidol Werdd.

Yr her - CYRRAEDD SERO NET erbyn 2030

Y nod i Mona Lifting yw parhau’n hyfyw yn fasnachol tra’n lleihau allyriadau carbon ac effeithiau amgylcheddol.

Eglura Gethin: “Mae ein llwyddiannau yn seiliedig ar egwyddorion cadarn ac rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb tuag at ddatblygu ein busnes a staff, yn ogystal â chyfrannu i’r gymuned leol. Heddiw, mwy nag erioed, mae hyn hefyd yn golygu bod yn gyfrifol o ran yr amgylchedd a chwarae ein rhan wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Rydym yn benderfynol o gyflawni hyn trwy leihau ein hallyriadau carbon."

Beth mae’r arbenigwyr yn ei ddweud - MYND I’R AFAEL AG ALLYRIADAU
Mae’r rhan fwyaf o garbon Mona Lifting yn dod o allyriadau anuniongyrchol, mae hyn yn golygu trwy nwyddau a gwasanaethau sydd wedi eu prynu. Mae gan y cwmni system reoli amgylcheddol mewn lle yn barod sy’n yn eu gosod nhw ar y trywydd cywir. I fynd i’r afael ag allyriadau ymhellach ac i helpu’r busnes gyrraedd ei darged, mae cynllun gweithredu graddol wedi ei lunio gydag argymhellion yn cynnwys datblygu cadwyni cyflenwi lleol, sicrhau tariff trydan gwyrdd, cynhyrchu pŵer ar y safle, a gosod mannau gwefru EV.

Y canlyniad- LLWYBR I LEIHAU CARBON
Mae’r Academi Ddigidol Werdd wedi cynorthwyo Mona Lifting ar eu taith datgarboneiddio, ac mae Gethin yn falch o amlygu manteision y prosiect: “Yn dilyn dadansoddiad trylwyr o’n gweithrediadau mae ein hymgynghorydd lleol wedi helpu ni i ddeall pa elfennau o’r busnes sydd angen i ni ganolbwyntio arnynt ac i fapio sut y gallwn gyflawni sero net erbyn 2030. Mae’r gefnogaeth wedi golygu ein bod ni wedi gallu parhau i ganolbwyntio ar ein cwsmeriaid gan wybod fod arbenigwyr yn edrych ar sut y gallwn leihau ein ôl-troed carbon.”

Eisiau gwybod mwy neu gymryd rhan yn y prosiect?
Cysylltwch digidol.gwyrdd@gllm.ac.uk |08445 460 460