Rheilffordd Talyllyn

Agorodd y rheilffordd yn 1866. Roedd yn unigryw ar y pryd gan ei bod yn eiddo i’r chwarel lechi yr oedd yn ei gwasanaethu, yn ogystal â’i bod yn cario teithwyr a nwyddau rhwng Tywyn a Nant Gwernol, Gwynedd. Mae’r cwmni’n falch iawn o’i dreftadaeth fel y rheilffordd gyntaf yn y byd i gael ei hadnewyddu a’i enw da am fod yn groesawgar. Mae’r tîm yn angerddol am amddiffyn yr amgylchedd yn ogystal â buddsoddi yn y gymuned leol, felly roedd y cyfle i gymryd rhan yn yr Academi Ddigidol Werdd yn un rhy dda i’w golli.

Yr her - CYRRAEDD SERO NET erbyn 2030

Mae Rheilffordd Talyllyn yn gweithio’n galed i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar, ond yn debyg i nifer o fusnesau eraill, gwybod ble i ddechrau yw’r her. Esbonia Liz Porrett o’r rheilffordd: “Rydym yn ymwybodol bod rhai o'n harferion, fel y defnydd o lo yn ein peiriannau stêm, disel mewn peiriannau eraill, yn ogystal â defnyddio trydan a dŵr yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd. Rydym yn benderfynol i wneud yr hyn a allwn i leihau ein heffaith ac yn awyddus i edrych ar sut rydym yn gweithredu er mwyn gwneud hyn.”

Beth mae’r arbenigwyr yn ei ddweud - MYND I’R AFAEL AG ALLYRIADAU
Yn ôl yr adroddiad, glo, bwyd a diod, a nwyddau oedd prif ffynonellau o ran allyriadau. Oherwydd natur y busnes, nid yw'n syndod bod llosgi tanwydd yn gyfrannwr sylweddol. Mae hyn, ynghyd ag allyriadau anuniongyrchol trwy nwyddau wedi eu prynu mewn yn cyfrannu 95% o gyfanswm allyriadau carbon y cwmni. Mae cynllun gweithredu cam wrth gam wedi'i greu i helpu'r cwmni gyrraedd sero net. Ymysg yr argymhellion mae cynnal adolygiad o systemau gwresogi, gwneud defnydd ehangach o ynni solar a newid i’r Cynllun Gwarantau Tarddiad Ynni Adnewyddadwy (REGNO) ar gyfer trydan. Mae’r gwaith y mae’r rheilffordd wedi’i wneud i edrych ar opsiynau gwahanol i lo hefyd wedi’i nodi fel arfer da a chyda potensial i leihau allyriadau’r cwmni’n sylweddol.

Y canlyniad - LLWYBR I LEIHAU CARBON
Gyda lleihau carbon a chyrraedd sero net erbyn 2030 yn flaenoriaeth, mae Liz yn croesawu’r adroddiad. “Mae hwn wedi bod yn brofiad da iawn i ni, ac rydym wedi dysgu llawer trwy weithio â’r arbenigwyr trwy’r Academi Ddigidol Werdd. Mae rhai camau allweddol y gallwn eu cymryd yn syth i helpu Rheilffordd Talyllyn ar y daith i Sero Net ac i leihau ein heffaith ar yr hinsawdd. Mae’n wych gweld bod y gwaith rydym wedi ei wneud yn barod i chwilio am opsiynau gwahanol i lo yn cael ei gydnabod, ac edrychwn ymlaen

Eisiau gwybod mwy neu gymryd rhan yn y prosiect?
Cysylltwch green.digital@gllm.ac.uk | 08445 460 460