Caban Brynrefail

Mae Caban yn fenter unigryw wedi ei leoli ym mhentref Brynrefail ger Caernarfon. Ar y safle mae caffi sy’n cyflogi 14 o bobl yn ogystal ag unedau busnes sy’n creu rhwng 15 a 20 o swyddi yn ychwanegol. Yn gwmni cydweithredol, cenhadaeth Caban yw darparu canolbwynt yng nghanol y gymuned, gan weithio gyda phartneriaid i wella ansawdd bywyd yn lleol. Mae diogelu’r amgylchedd yn bwysig iawn i’r busnes, maen nhw’n gweithio’n galed i gyrraedd y nod o sero net erbyn 2030. Roedd derbyn cyngor gan arbenigwyr a chofrestru ar gyfer yr Academi Ddigidol Werdd yn apelio at Caban felly ac yn hwb iddynt fynd gam ymhellach gyda’u hymdrechion.

Yr her - CYRRAEDD SERO NET erbyn 2030

Mae Chris Wright yn amlinellu gweledigaeth y cwmni: “Ein nod yw rhedeg caffi cynaliadwy yma yn ogystal â darparu cartref i fentrau lleol ffynnu – dyma pam bod buddsoddi yn ein dyfodol yn bwysig i ni. Rydym eisiau sicrhau ein bod ni’n gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol, ac wedi ymrwymo i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.” Mae adolygiad yr Academi Ddigidol Werdd yn dangos mai nwyddau a gwasanaethau wedi eu prynu sy’n cael yr effaith fwyaf ar ôl troed carbon y busnes, cyfanswm o dros dri chwarter yr holl allyriadau. Ac fel caffi, cyflenwadau bwyd a diod yw’r cyfranwyr mwyaf. Mae gwres sy’n cael ei gynhyrchu ar y safle hefyd yn un o’r prif ffynonellau carbon. Mynd i'r afael â'r heriau yma ymhlith eraill fydd yn cael sylw’r busnes felly wrth anelu at sero net.

Beth mae’r arbenigwyr yn ei ddweud - MYND I’R AFAEL AG ALLYRIADAU
Mae bod yn garbon niwtral yn y dyfodol yn allweddol i bwrpas Caban Brynrefail. Roedd y tîm yn croesawu’r hyn sydd wedi ei gynnwys yn yr hadroddiad. Maen nhw eisoes yn gweithio gyda chyflenwyr lleol ac yn dewis cynnyrch o ffynonellau moesegol sy'n cael effaith cadarnhaol ar eu cynaliadwyedd. Yn ogystal â chynlluniau sydd yn eu lle yn barod, mae argymhellion yn cynnwys cael gwared â’r boeler nwy a gosod pwmp gwres a pwyntiau gwefru cerbydau trydan. Yn y tymor canol yr argymhelliad yw gosod paneli PV i leihau’r ddibyniaeth ar y grid i gynhyrchu trydan. Wrth edrych ymhellach i’r dyfodol mae arbenigwr lleol Academi Ddigidol Werdd yn awgrymu y dylai’r busnes gynnal adolygiad o insiwleiddio to a’r waliau’r Caban er mwyn gwella effeithlonrwydd.

Y canlyniad - LLWYBR I LEIHAU CARBON
Fel busnes moesegol sydd wedi ymroi i fod yn garbon niwtral, mae Chris yn dweud bod yr Academi Ddigidol Werdd wedi cynnig syniadau newydd iddynt, yn enwedig wrth edrych i’r dyfodol: “Mae cyrraedd sero net erbyn 2030 yn nod bwysig i ni fel busnes. Diolch i’r prosiect hwn, mae gennym ddarlun cliriach o’r llwybr y mae angen i ni ei gymryd i leihau ein hallyriadau er lles yr amgylchedd a Caban Brynrefail fel busnes. Roedd yr adborth a gawsom yn hynod ddefnyddiol i ni a byddwn yn sicr yn ystyried argymhellion yr arbenigwyr er mwyn cyrraedd ein nod.”

Eisiau gwybod mwy neu gymryd rhan yn y prosiect?
Cysylltwch green.digital@gllm.ac.uk | 08445 460 460