Môn ar Lwy

Mae Môn ar Lwy, cwmni hufen iâ o Fodorgan, wedi bod yn gweithio gyda Busnes@LlandrilloMenai i fapio ei ôl troed carbon drwy’r Academi Ddigidol Werdd. Sefydlwyd y busnes teuluol yn 2008 ac mae wedi bod yn cynhyrchu hufen iâ a sorbets o safon ers hynny. Mae cynaladwyedd yn bwysig i Helen Holland, perchennog y busnes, gyda’u llaeth i gyd yn dod o fferm lai na dwy filltir i ffwrdd o Môn ar Lwy. Wrth edrych i'r dyfodol roedd Helen yn awyddus i edrych ar sut y gallai wneud y cwmni yn fwy gwyrdd wrth barhau i gefnogi'r gymuned leol a gweithio gyda chyflenwyr ar yr ynys.

Yr her - CYRRAEDD SERO NET erbyn 2030

Gyda’r angen i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn cynyddu, roedd Helen eisiau cael dealltwriaeth o flaenoriaethau digidol a sero net ar gyfer Môn ar Lwy, a sut allai’r cwmni leihau allyriadau erbyn 2030. “Fel busnes ein nod yw ceisio addasu’n gyflym i gwrdd â rheoliadau sero net y llywodraeth ac i fod yn flaengar wrth ddatblygu’r cwmni. Mae gweithio gyda Busnes@LlandrilloMenai wedi bod yn brofiad gwerthfawr i ni ac wedi’n helpu ni ar ein taith i leihau’n effaith ar y blaned yn ogystal â phenderfynu ar y camau allwn ni eu cymryd er mwy cwrdd â galw cwsmeriaid am gynnyrch ecogyfeillgar.”

Beth mae’r arbenigwyr yn ei ddweud - MYND I’R AFAEL AG ALLYRIADAU
Fel llawer o fusnesau cynhyrchu, nwyddau a gwasanaethau wedi eu prynu sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o allyriadau Môn ar Lwy, gyda phecynnu a chynhwysion ar dop y rhestr. Mae'r defnydd o drydan ar gyfer rhewgelloedd hefyd yn cyfrannu yn sylweddol at allyriadau’r busnes. Er mwyn cyrraedd sero net, mae arbenigwyr yn awgrymu adolygu pecynnu ac edrych ar opsiynau y mae modd eu hailgylchu a'u compostio. Mae camau gweithredu eraill yn cynnwys newid i dariff trydan adnewyddadwy 100%, gosod paneli ffotofoltäig ychwanegol ac yn y tymor canolig i'r hirdymor, symud i gerbydau trydan i gludo cynnyrch i gwsmeriaid.

Y canlyniad - LLWYBR I LEIHAU CARBON
Mae Helen yn cydnabod y bydd yn her rhoi'r argymhellion ar waith, ond mae’n egluro: “Rydym eisiau gwneud gwahaniaeth ac i leihau effaith ein busnes ar yr hinsawdd. Diolch i’r cymorth rydym wedi ei gael mae ganddo’ ni dealltwriaeth o’r hyn allwn ni ei wneud a'r dechnoleg y gallwn ei defnyddio i wneud Môn ar Lwy yn fusnes gwirioneddol gynaliadwy. Dyma ddechrau’r daith i ni, yn sicr rydym wedi cael budd o gyngor a chefnogaeth yr Academi Ddigidol Werdd.”

Eisiau gwybod mwy neu gymryd rhan yn y prosiect?
Cysylltwch green.digital@gllm.ac.uk | 08445 460 460