Rhifedd Byw - Lluosi: Cyrsiau Mathemateg i Oedolion
Hoffech chi fynychu sesiynau un i un, neu sesiynau bach cyfeillgar i helpu i fagu hyder a gwella eich sgiliau? Gall y prosiect Rhifedd Byw eich helpu i wneud hyn, a'ch galluogi i ddysgu ar gyflymder sy'n addas i chi.
Beth yw prosiect Lluosi?
Rhaglen newydd yw Lluosi i helpu oedolion i fod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio rhifau yn eu bywyd bob dydd. Mae’r prosiect yn cynnig mynediad hawdd i ystod eang o gyrsiau mathemateg AM DDIM ar draws Gogledd Cymru.
Os oes arnoch angen cymorth i reoli eich arian, i fod yn gefn i’ch plant gyda’u gwaith cartref, neu i wella eich cyfleoedd yn y gwaith, gallwn ni eich helpu.
Pwy all gael yr hyfforddiant?
I fod yn gymwys ar gyfer yr hyfforddiant hwn bydd angen i chi:
- fod yn 19 oed neu'n hŷn;
- yn byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Ble bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal?
Bydd y cyrsiau'n cael eu cynnal yn y gymuned, mewn gweithleoedd neu fel rhan o gynlluniau dysgu i deuluoedd mewn ysgolion cynradd lleol.
Mewn lleoliadau fel llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol yn:
- Abergele
- Bangor
- Caernarfon
- Bae Colwyn
- Dinbych
- Dolgellau
- Caergybi
- Llandudno
- Llangefni
- Pwllheli
- Y Rhyl
Mae'r cymorth ar gael am ddim i unigolion, grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol, sefydliadau a busnesau.
Prosiect Lluosi i Ddysgwyr Unigol
Ydych chi'n awyddus i roi hwb i'ch gyrfa, neu dim ond am fod yn fwy hyderus wrth drin rhifau a gwella ansawdd cyffredinol eich bywyd? Mae Prosiect Lluosi wedi cefnogi cannoedd o ddysgwyr fel chi yng ngogledd Cymru.
Prosiect Lluosi i Sefydliadau
Gallwn ddatblygu sgiliau a hyder eich gweithlu, neu'r bobl rydych chi'n eu cefnogi trwy gynnig cyrsiau pwrpasol sydd wedi cael eu teilwra i'w hanghenion a'u gobeithion nhw.
Pa gyrsiau sydd ar gael?
Mae’r prosiect yn cynnig mynediad hawdd i ystod eang o gyrsiau mathemateg AM DDIM ar draws Gogledd Cymru.
Os oes arnoch angen cymorth i reoli eich arian, i fod yn gefn i’ch plant gyda’u gwaith cartref, neu i wella eich cyfleoedd yn y gwaith, gallwn ni eich helpu.
Sut mae gwneud cais?
Am fwy o wybodaeth:
- e-bostiwch lluosi@gllm.ac.uk
- cwblhewch y ffurflen ar-lein hon a ddaw rhywun i gyswllt â chi.
- ffôniwch 01492 542 338
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Grŵp Llandrillo Menai sy'n arwain prosiect Lluosi yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.
Rhaglen hyfforddi arloesol a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw Lluosi a'r bwriad yw helpu pobl i wella eu dealltwriaeth a'u defnydd o fathemateg yn eu bywyd bob dydd, gartref ac yn y gwaith. Efallai eu bod am wneud hynny i wella'r sefyllfa ariannol yn y cartref, i helpu eu plant gyda'u gwaith cartref, i ddeall y ffeithiau a gyflwynir ar y cyfryngau'n well neu i wella'r sgiliau rhifedd penodol sydd eu hangen arnynt yn eu gwaith.
Newyddion diweddaraf:
Nofio yn y môr ac ysgol pizza yn helpu pobl i wella eu sgiliau rhif
Rŵan bydd hyd yn oed mwy o bobl yn cael mynd ar gyrsiau mathemateg AM DDIM gyda phrosiect Rhifedd Byw - Lluosi yn dilyn newid i’r meini prawf cymhwysedd
Mwy o bobl yn cael mynd ar gyrsiau mathemateg AM DDIM trwy brosiect Lluosi
Mae newid yn y meini prawf cymhwysedd yn golygu y gall hyd yn oed mwy o bobl wella eu sgiliau rhif - gyda nofio gwyllt, ffeiriau gwyddoniaeth a bingo mathemateg yn rhai o’r ffyrdd y mae Lluosi wedi helpu pobl
Prosiect Lluosi yn cynnal cyrsiau Cynnal a Chadw Ceir a Weldio yn yr Adran Beirianneg
Mae’r cyrsiau Lluosi - Rhifedd Byw yng Ngholeg Menai yn Llangefni yn rhoi cyfle i ddysgwyr uwchsgilio a defnyddio rhifau mewn amgylchedd byd go iawn