Dyddiau i Groesawu Ymgeiswyr Newydd i'r Coleg
Os ydych chi wedi gwneud cais i astudio gyda ni ym mis Medi, byddwch yn derbyn gwahoddiad cyn hir i ddiwrnod 'Croeso i'r Coleg' ym mis Mehefin.
Bwriad y diwrnod yw rhoi rhagflas i chi o'r coleg a chewch gyfle i gwrdd â'r tiwtoriaid, gweld y campws a'r cyfleusterau a chymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol sy'n gysylltiedig â'ch maes pwnc.
Mae'n gyfle hefyd i ofyn cwestiynau ac i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael cyn i chi ymuno â ni ym mis Medi.
Rydym yn cynnal Diwrnod Croeso i'r Coleg ar bob un o'n campysau:
- Bangor: Dydd Mawrth 28 Mehefin, 9am-2pm
- Dolgellau: Dydd Iau 30 Mehefin, 9am-2pm
- Llangefni: Dydd Mercher 29 Mehefin, 9am-2pm
- Pwllheli: Dydd Mawrth 28 Mehefin, 9am-2pm
- Glynllifon: Dydd Iau 30 Mehefin, 9am-2pm
- Llandrillo-yn-Rhos: Dydd Iau 30 Mehefin, 9am-2pm
- Y Rhyl: Dydd Mercher 29 Mehefin, 9am-2pm
I gael gwybodaeth am gludiant i ac o'r digwyddiad, cliciwch yma.
Bydd cinio yn cael ei ddarparu.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: ymholiadaucyffredinol@gllm.ac.uk
Edrychwn ymlaen at eich croesawu.
I archebu eich lle, llenwch y ffurflen.
