Prosiect Lluosi i Ddysgwyr Unigol
Ydych chi'n awyddus i roi hwb i'ch gyrfa, neu dim ond am fod yn fwy hyderus wrth drin rhifau a gwella ansawdd cyffredinol eich bywyd? Mae Prosiect Lluosi wedi cefnogi cannoedd o ddysgwyr fel chi yng ngogledd Cymru.
Ydych chi’n teimlo bod eich diffyg hyder mewn mathemateg yn eich dal chi'n ôl? Peidiwch â phoeni, nid chi ydi'r unig un! Mae arolygon diweddar yn dangos bod 49% o oedolion yn teimlo'n ddihyder wrth ddefnyddio rhifau mewn bywyd bob dydd.
Dyna pam mae Prosiect Lluosi yn cynnig Cymorth AM DDIM i bobl dros 19 oed yn siroedd Dinbych, Conwy, Gwynedd a Môn sydd eisiau gwella eu sgiliau rhifedd. Os ydych chi am wella eich cyfleoedd yn y gwaith, meithrin sgiliau newydd er mwyn cael dyrchafiad, dychwelyd i addysg neu wella eich lles cyffredinol – gallwn ni eich helpu.
Cyrsiau i bawb
Beth bynnag yw lefel eich rhifedd, gallwn ni helpu i wella eich hyder gyda rhifau.
Hyblygrwydd y ddarpariaeth
Rydyn ni’n deall y gall bywyd fod yn brysur, a dyna pam rydyn ni’n gallu cyflwyno cyrsiau ar amseroedd ac mewn lleoliadau sy'n gyfleus i’n dysgwyr. Gallwn gynnal cyrsiau neu gymorth 1:1 mewn canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd neu gampysau lleol ac rydyn ni hefyd yn cynnig sesiynau ar-lein i'r rhai sydd angen hynny.
Y prosiect hyd yn hyn
Dyma enghraifft o'r cyrsiau rydyn ni wedi'u cynnal i ddysgwyr yn siroedd Dinbych, Conwy, Gwynedd a Môn:
- Cyllidebu
- Arbed arian wrth siopa am fwyd
- Rhifau wrth drin ceir
- Rhifau mewn DIY
- Rhifau mewn crefftau
- Rhifau wrth goginio
- Helpu eich plentyn gyda mathemateg
- Rhedeg eich busnes eich hun
- Posau a gemau rhif
- Rhifau mewn ffotograffiaeth
- Deall slipiau cyflog
- Mathemateg ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu.
Nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth a gallwn ddatblygu cyrsiau sydd wedi eu teilwra ar gyfer eich anghenion a'ch gobeithion chi.
Cymwysterau ffurfiol
Gall Prosiect Lluosi hefyd gynnig sesiynau tiwtora AM DDIM i unigolion sy'n dymuno ennill cymwysterau mathemateg ffurfiol, fel cymhwyster TGAU neu gymhwyster 'Cymhwyso Rhif' Sgiliau Hanfodol Cymru sy'n gyfwerth â TGAU.
Mae Prosiect Lluosi hefyd yn talu costau cofrestru arholiadau. Mae ennill cymhwyster mathemateg ffurfiol yn agor y drws i amrywiaeth eang swydd, addysg a hyfforddiant a gall ein tiwtoriaid arbenigol hefyd eich helpu i benderfynu pa gymhwyster sydd orau i chi.
Sut i gael mynediad i'r gefnogaeth sydd ar gael
Gallwch weld ein cyrsiau ac archebu lle arnynt ar y dudalen hon: https://www.gllm.ac.uk/cy/online-prospectus/multiply
Methu gweld cwrs sydd at eich dant?
Gallwch gysylltu â ni i drafod lefel eich rhifedd ar hyn o bryd, eich diddordebau a'r hyn yr hoffech ei gyflawni. Yna gall ein tîm edrych ar y syniad o ddatblygu cwrs pwrpasol i chi.
- Ffoniwch ni ar: 01492 542 338
- E-bost: multiply@gllm.ac.uk
- Fel arall, llenwch ein ffurflen ar-lein a bydd rhywun o dîm Lluosi yn cysylltu cyn gynted â phosibl.