Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Archif Calendr Dysgwyr

Digwyddiadau i Fyfyrwyr sydd wedi bod

Noder: Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Bydd rhai o'r cysylltiadau isod yn mynd a chi i wefannau allanol uniaith Saesneg.

Dewch i weld digwyddiadau myfyrwyr sydd i ddod

Mer 10 Medi

Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd

    Dydd Mercher 10 Medi 2025


    Mae Medi 10fed yn Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd - amser i godi ymwybyddiaeth ac annog sgyrsiau am iechyd meddwl. Os ydych chi'n cael trafferth gyda'ch iechyd meddwl, mae'n bwysig eich bod yn gwybod nad ydych ar eich pen eich hun.

    Mae Tîm Lles y Grŵp yma i'ch cefnogi. Gallwch estyn allan drwy e-bost staysafe@gllm.ac.uk, neu os yw'n well gennych, gallwch alw i mewn i Wasanaethau i Ddysgwyr a gofyn am gael gweld aelod o'r tîm lles. Isod mae'r pwyntiau cyswllt ar gyfer pob campws:

    Coleg Llandrillo: Tam Jones - Cydlynydd Cefnogi Myfyrwyr
    Coleg Menai: Sioned Fever - Swyddog Lles
    Rhyl: Kieran Homer - Swyddog Lles
    Coleg Meirion Dwyfor: Alison Margaret Davies - Swyddog Lles

    Rydym yn eich annog i geisio cymorth os oes ei angen arnoch, a chofiwch ei bod yn iawn gofyn am help.

    Llun 15 Medi

    Ty’d Am Sgwrs Cyn Gadael Cwrs

      Dydd Llun 15 Medi 2025 - Dydd Sadwrn 20 Medi 2025


      Wyt ti wedi dechrau cwrs yn y coleg, ond ddim yn siŵr a wyt ti wedi gwneud y dewis iawn?

      Dydi hi ddim yn rhy hwyr i newid dy gwrs os wyt ti'n ailfeddwl.

      Tyrd i siarad â ni – rydyn ni yma i helpu.

      Bydd cynghorwyr cyfeillgar ein Gwasanaeth i Ddysgwyr yn rhoi cyngor diduedd i ti er mwyn dy helpu i wneud y penderfyniad sy'n iawn i ti.

      Os wyt ti'n ystyried newid dy gwrs neu adael y coleg, llenwa'r Google Form erbyn 27 Medi neu siarada â dy diwtor personol, a bydd rhywun o’r Gwasanaethau i Ddysgwyr yn cysylltu â thi.

      Bydd y Google Form ar gael hefyd drwy ddolen ar eDrac y Dysgwyr, neu mae croeso i ti alw heibio i'r Gwasanaeth i Ddysgwyr ar dy gampws.


      Maw 16 Medi

      Diwrnod Owain Glyndŵr

        Dydd Mawrth 16 Medi 2025


        Mae Diwrnod Owain Glyndŵr, sy’n cael ei ddathlu pob blwyddyn ar 16 Medi, yn coffáu bywyd Owain Glyndŵr fel Tywysog Cymru ym 1400, gan nodi eiliad bwysig yn hanes Cymru. Roedd Glyndŵr, yr unig Gymro i gynnal y teitl hwn, yn symbol o falchder cenedlaethol a gwrthwynebiad yn erbyn rheolaeth Saesneg. Mae ei etifeddiaeth sy’n cael ei ddathlu ers canrifoedd, yn enwedig o'r 19eg ganrif ymlaen, wedi tyfu'n symbol o hunaniaeth ac annibyniaeth Cymru.




        Gwe 19 Medi

        Diwrnod Rhyngwladol Heddwch

          Dydd Gwener 19 Medi 2025


          Mae Diwrnod Rhyngwladol Heddwch, a gaiff ei ddathlu ar 21 Medi bob blwyddyn, yn ddiwrnod a ddynodwyd gan y Cenhedloedd Unedig i hyrwyddo heddwch a diffyg rhyfel a thrais ledled y byd. Mae'n annog cenhedloedd a phobl i gymryd rhan mewn deialog heddychlon, rhoi'r gorau i elyniaeth, a gweithio gyda'i gilydd i adeiladu byd mwy cyfiawn a chynaliadwy. Mae'r diwrnod hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd hawliau dynol, cydraddoldeb a chydweithrediad. Pob blwyddyn mae thema benodol sy'n adlewyrchu heriau byd-eang cyfredol sy'n gysylltiedig â heddwch a diogelwch.

          https://www.un.org/en/observances/international-day-peace

          Mer 01 Hyd

          Mis Hanes Pobl Ddu

            Dydd Mercher 01 Hydref 2025 - Dydd Gwener 31 Hydref 2025


            Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn cael ei ddathlu bob mis Hydref yn y DU. Mae'n amser i gydnabod, dathlu a myfyrio ar gyflawniadau, cyfraniadau a hanes pobl Dduon ym Mhrydain ac o gwmpas y byd. Mae'r mis yn tynnu sylw at straeon sydd wedi cael eu hanwybyddu'n rhy aml, ac mae'n darparu llwyfan i ddathlu unigolion a chymunedau sydd wedi llunio hanes trwy wydnwch, arweinyddiaeth, creadigrwydd a dewrder.

            https://www.blackhistorymonth.org.uk

            Mer 01 Hyd

            Mis Ymwybyddiaeth ADHD

              Dydd Mercher 01 Hydref 2025 - Dydd Gwener 31 Hydref 2025


              Mis Hydref yw Mis Ymwybyddiaeth ADHD


              Mae ymennydd sydd ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) yn gweithio'n wahanol. Mae gan bobl sydd ag ADHD bresbectif unigryw sydd yn werthfawr a diddorol i eraill.

              Mae ADHD yn helpu gyda meddwl yn wahanol a gallu creadigol sy'n helpu gyda chyflawniadau yn y byd go iawn.

              Mae ymchwil yn dangos bod rhai o nodweddion ADHD yn cynnwys egni uchel, creadigrwydd, gor-ganolbwyntio, hawddgarwch, empathi, a pharodrwydd i helpu eraill.

              Pan fydd pobl yn angerddol i gyrraedd nod, mae eu hegni ADHD yn gyrru eu perfformiad a’u cynhyrchiant.

              Mae pobl lwyddiannus sydd ag ADHD yn aml yn llwyddo oherwydd bod nodweddion cadarnhaol eu ADHD yn eu helpu i ffynnu.

              Mae pobl enwog sydd ag ADHD yn cynnwys: (Cynnwys Lluniau)

              Emma Watson
              Ryan Gosling
              Will Smith
              Michael Phelps
              Will.i.am
              Justin Timberlake
              John Lennon
              Walt Disney

              Llun 06 Hyd

              Wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia

                Dydd Llun 06 Hydref 2025 - Dydd Gwener 10 Hydref 2025


                Mae wythnos Ymwybyddiaeth Dyslecsia yn rhedeg o'r 6ed -12fed o Hydref. Mae gan 1 o bob 10 o bobl ddyslecsia.

                Mae dros filiwn o blant ysgol yn y DU gyda dyslecsia. Mae llawer heb gael diagnosis.

                Mae dros 3.3 miliwn o oedolion yn y gweithle gyda dyslecsia. Mae llawer heb gael diagnosis.

                I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: bdadyslexia.org.uk

                Iau 09 Hyd

                Diwrnod Golwg y Byd

                  Dydd Iau 09 Hydref 2025


                  World Sight Day is observed annually on the second Thursday of October. It is a global awareness day dedicated to eye health, the prevention of avoidable blindness, and the promotion of accessible eye care for all. Organised by the International Agency for the Prevention of Blindness (IAPB), the day calls for collective action to ensure that everyone, everywhere, has the right to clear vision and quality eye care.

                  Gwe 10 Hyd

                  Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

                    Dydd Gwener 10 Hydref 2025


                    Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn rhoi cyfle i siarad am iechyd meddwl yn gyffredinol, sut mae angen i ni ofalu amdano, a pha mor bwysig yw hi i siarad am bethau a chael help os ydych yn cael trafferth. Gall hefyd helpu i godi ymwybyddiaeth am gyflyrau iechyd meddwl a pha gymorth sydd ar gael.

                    https://meddwl.org/event/diwrn...

                    Llun 13 Hyd

                    Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg

                      Dydd Llun 13 Hydref 2025 - Dydd Gwener 17 Hydref 2025


                      Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, 12-18Hydref

                      Unwaith eto eleni, mae Radio Cymru a BBC Cymru Fyw yn cynnal Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ac eleni mae S4C yn ymuno yn y fenter gydag eitemau ar Prynhawn da a Heno.

                      Dylunia Masgot y Grŵp - Cliciwch yma i gael gwybod mwy

                      Mer 15 Hyd

                      Diwrnod Rhagenwau Rhyngwladol

                        Dydd Mercher 15 Hydref 2025


                        Caiff Diwrnod Rhagenwau Rhyngwladol ei nodi’n flynyddol ar drydydd dydd Mercher mis Hydref. Mae’n ddiwrnod i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd parchu a defnyddio rhagenwau cywir pobl. Mae’n hyrwyddo dealltwriaeth o sut mae rhagenwau’n ymwneud â hunaniaeth rhywedd, ac mae’n annog arferion cynhwysol mewn cyfathrebu bob dydd.

                        Mae defnyddio’r rhagenwau cywir ar gyfer rhywun yn ffordd syml ond pwerus i ddangos parch a chefnogaeth i’w hunaniaeth. Gall gam-ryweddu—defnyddio rhagenwau anghywir—achosi gofid a chyfrannu at deimladau o eithrio cymdeithasol. Mae adnabod a defnyddio rhagenwau dewisol person yn helpu i greu diwylliant lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu gwerthfawrogi a’u deall.

                        Mae’r diwrnod hwn yn atgof bod iaith yn bwysig, a gall gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth mawr wrth greu amgylchedd parchus a chroesawgar i bawb.

                        Mer 15 Hyd

                        Diwrnod Shwmae Su’mae

                          Dydd Mercher 15 Hydref 2025


                          Diwrnod Shwmae Su’mae - Dolen i'r poster

                          Llun 03 Tach

                          Arbed Arian

                            Dydd Llun 03 Tachwedd 2025 - Dydd Gwener 07 Tachwedd 2025


                            Cael cyngor a chymorth ariannol:

                            Cyngor ar
                            Bopeth​:
                            darparu cyngor cyfrinachol, annibynnol am ddim ar lawer of broblemau. Mae hyn yn cynnwys budd-daliadau, dyled ac arian neu faterion cyfreithiol.

                            Helpwr Arian:​ yn darparu cyngor ariannol diduedd am ddim. Gall eich helpu i gynllunio a rheoli eich cyllid a chaiff ei sefydlu gan lywodraeth y DU.

                            Cael cyngor ariannol: mae gan dudalen we Dewis Cymru hon ddolenni i amrywiaeth o gyngor a chymorth ariannol

                            Cymorth cyllid i fyfyrwyr yng Ngrŵp Llandrillo Menai: cliciwch yma i gael gwybod am y cymorth ariannol sydd ar gael yn y coleg

                            TOTUM
                            yw'r unig ostyngiad myfyriwr, prawf oedran a cherdyn bywyd campws a llwyfan a argymhellir gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr:

                            Gofal Plant am Ddim yng Nghymru i blant 3 - 4 oed:
                            cymorth ar gyfer costau gofal plant yng Nghymru

                            Llun 03 Tach

                            Wythnos Hinsawdd Cymru

                              Dydd Llun 03 Tachwedd 2025 - Dydd Gwener 07 Tachwedd 2025


                              Mae Cymru lanach, wyrddach a chryfach yn dechrau yma. Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn ddigwyddiad blynyddol cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth am newid hinsawdd a hyrwyddo arferion cynaliadwy ledled Cymru. Mae'r wythnos yn gyfle i bawb o Gymru ymuno â'r drafodaeth am yr hyn y gallwn ni ei wneud i helpu. Mae GLlM wedi ymrwymo i gyflawni Sero Net erbyn 2030. Felly, ymunwch â ni ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru mewn amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi'u trefnu ledled y Grŵp a dysgwch beth allwch chi ei wneud.

                              Cysylltu â ni

                              Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

                              Request date