Rhoi'r sylw ar Letygarwch ac Arlwyo
Cafodd ein hadrannau Lletygarwch radd ‘Rhagoriaeth’ gan Estyn, Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
Cafodd ein hadrannau Lletygarwch radd ‘Rhagoriaeth’ gan Estyn, Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Canmolodd arolygwyr Estyn y cyfleoedd arloesol a roddir i ddysgwyr “gyfranogi mewn ystod o brosiectau medrau a chyflogadwyedd rhyngwladol” ac “i gael profiad gwerthfawr iawn yn gysylltiedig â gwaith mewn amgylchedd proffesiynol”
Y maes rhaglen Lletygarwch ac Arlwyo yw’r unig un yng Nghymru sy’n darparu cyrsiau llawn amser a rhan-amser, o Lefel 1 hyd at Raddau Anrhydedd, mewn Celfyddydau Coginio a Rheoli ym maes Lletygarwch. Mae hefyd yn darparu prentisiaethau, cymwysterau NVQ a hyfforddiant wedi’i deilwra i rai sy’n gweithio yn y diwydiant. Cewch y cyfle i gael eich dewis i gymryd rhan ym Mhencampwriaethau
Coginio Cymru lle mae ein dysgwyr wedi cael llwyddiant sylweddol dros y blynyddoedd. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o gystadlaethau cenedlaethol sy’n cynnwys Torque Dôr, Seafish a Worldskills. Mae lleoliadau gwaith ar draws Ewrop, a ariennir y llawn gan raglen Erasmus+, yn rhoi cyfle i chi feithrin sgiliau cyflogadwyedd.
Mae adrannau Lletygarwch Grŵp Llandrillo Menai yn falch iawn o'u cyn-fyfyrwyr disglair. Yn ystod blynyddoedd diweddar, mae cyn-fyfyrwyr wedi profi llwyddiant arbennig ar ddechrau eu gyrfaoedd fel cogyddion: mae un yn gweithio ochr yn ochr â'r arloeswr arlwyo Heston Blumenthal, mae nifer yn brif gogyddion mewn tai bwyta seren Michelin ac mae nifer wedi ymddangos ar y gyfres deledu boblogaidd 'The Great British Menu'.
Dysgodd y cogydd enwog, Bryn Williams, ei grefft ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos. Mae Bryn, sy'n dod o Ddinbych yn wreiddiol, yn brif gogydd a pherchennog Tŷ Bwyta Odette's yn Llundain. Ym mis Mehefin 2015 agorodd bistro newydd, Bryn@Porth Eirias, ar lan y môr ym Mae Colwyn, dafliad carreg yn unig o'r campws ble cafodd ei hyfforddi.
Rydym yn cynnig cyrsiau llawn amser yn y meysydd a ganlyn:
- Lletygarwch ac Arlwyo
- Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd a Diod
- Coginio Proffesiynol (Cegin a Phantri)