Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Rhoi Sylw i Adeiladu

Adeiladu yw un o ddiwydiannau mwyaf economi'r DU. Ar hyn o bryd mae'n cyflogi dros 3 miliwn o bobl ac mae disgwyl iddo dyfu dros 8% erbyn 2024 i fod yn werth tua £240 biliwn.

Mae'r crefftau adeiladu amrywiol a gynigir yn y coleg yn rhoi cyfle i chi fod yn rhan o'r sector llewyrchus hwn.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gwaith Brics
  • Gwaith Saer ac Asiedydd
  • Sgiliau Adeiladu Uwch
  • Gosod Trydan
  • Paentio ac Addurno
  • Plastro
  • Plymwaith

Mae gan ein colegau berthynas ardderchog â Sgiliau Adeiladu, Cyngor Sgiliau Sector y diwydiant, yn ogystal â chyflogwyr lleol, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai.

Peidiwch â cholli cyfle. Gwnewch gais heddiw.

OEDDECH CHI'N GWYBOD?

  • Cyflog Cyfartalog: £31,263
  • 2,088 o swyddi gwag ledled Gogledd Cymru erbyn 2023

Swyddi sy'n cynnig cyfleoedd gyrfa da:

  • Peirianneg Sifil
  • Pensaernïaeth
  • Crefftau Adeiladu
  • Rheoli ym maes Adeiladu

I ddarganfod mwy, porwch ein cyrsiau isod...