Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Rheolwr Maes Rhaglen - Adeiladwaith

Pwpras y swydd - Byddwch yn arwain y gwaith o gyflwyno cwricwlwm dwyieithog o ansawdd uchel ym mhob llwybr dysgu rydym ni'n ei gynnig ym maes Adeiladu – mae hyn yn cynnwys ein darpariaeth lawn amser, prentisiaethau, Addysg Uwch, a'r cwricwlwm 14-19. Gan weithio mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf, byddwch yn goruchwylio rheolaeth y cwricwlwm a rheolaeth weithredol ar draws sectorau arbenigol fel Gwaith Trydan, Plymio, Gwaith Saer, Gwaith Brics a Phlastro. Ym mhob disgyblaeth ceir gweithdai sydd wedi'u cynllunio'n bwrpasol ar gyfer addysgu arbenigol a dysgu ymarferol, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i ragoriaeth.

Yn y swydd allweddol hon, byddwch yn ysbrydoli ac yn arwain tîm ymroddedig o Ddarlithwyr, Aseswyr a Thechnegwyr i ddarparu addysg ddiddorol, gynhwysol a dwyieithog sy'n cefnogi pob dysgwr i gyrraedd ei botensial llawn. Gan ymwreiddio ein gwerthoedd – cydraddoldeb, gonestrwydd, ymddiriedaeth, tegwch, a pharch – byddwch yn meithrin diwylliant o gydweithio a gwelliant parhaus, gan sicrhau bod eich tîm yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu herio a'u cymell i gynnal y safonau uchaf ym maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol.

Gan adeiladu ar gyflawniadau’r gorffennol, byddwch yn arwain y gwaith o gynllunio a datblygu’r cwricwlwm er mwyn sicrhau bod pob rhaglen yn gyfredol, yn berthnasol i’r diwydiant, ac wedi’i theilwra i anghenion unigryw pob llwybr dysgu. Bydd gofyn i chi hefyd ystyried yn ofalus yr angen am gynaliadwyedd ariannol i sicrhau llwyddiant hirdymor.

Bydd rheoli dangosyddion perfformiad allweddol fel presenoldeb, cadw staff a chyflawniad yn ganolog i'ch rôl. Byddwch yn defnyddio eich dealltwriaeth o ddata i wella profiadau dysgwyr ac i feithrin llwyddiant. Ochr yn ochr ag arwain y cwricwlwm, byddwch yn goruchwylio prosesau sicrhau ansawdd hanfodol — gan gynnwys dilysu mewnol, amserlennu a chynllunio asesiadau — ac yn gweithio'n agos gyda thimau cefnogi i sicrhau bod yr holl ddysgwr yn cael yr arweiniad a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i ffynnu.

Byddwch yn hanfodol i'r gwaith o ddatblygu partneriaethau cryf rhwng cyflogwyr a rhanddeiliaid er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn cyd-fynd â gofynion newidiol y sector ac i ehangu cyfleoedd i ddysgwyr. Yn ogystal, byddwch yn cynnal y safonau uchaf o ran diogelu ac ansawdd, gan gynrychioli'r ymddiriedaeth a'r tegwch sy'n sail i ethos ein Coleg.

Mae hwn yn gyfle unigryw i ddod â'ch sgiliau arwain, eich gwybodaeth o'r cwricwlwm, a'ch brwdfrydedd dros addysg ddwyieithog i adran sy'n meddu ar gyfleusterau rhagorol, sy'n edrych i'r dyfodol, ac sydd â gweledigaeth glir ar gyfer twf. Bydd eich cyfraniadau nid yn unig yn adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes ar y gweill ond hefyd yn llywio llwyddiant staff a dysgwyr y dyfodol ar draws pob llwybr adeiladu.

Manylion Swydd

Cyfeirnod y Swydd

CM/033/25

Cyflog

£60,188.32 - £63,477.80 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith

  • Llangefni

Hawl gwyliau

  • 37 diwrnod y flwyddyn (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio

37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn

Cynllun Pensiwn Athrawon

Math o gytundeb

Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau

24 Hyd 2025
12:00 YH (Ganol dydd)

Sut i wneud cais

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.

  1. Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
  2. Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
    Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw.
  3. Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
  4. Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.

Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.

Lawrlwytho'r Ffurflen Gais pdf

Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.

Swyddi eraill

Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai.

Hysbysfwrdd Swyddi Cyflogwyr

Achrediadau Cyflogaeth

Logo Cyflogwr Hyderus o ran  Anabledd
Logo Leaders in diversity

Datganiad Gwrth-hiliaeth

Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r egwyddorion sylfaenol o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) ym mhob agwedd ar waith y sefydliad. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i feithrin gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i rymuso.

Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn falch o fod yn gymuned lle gall pob unigolyn ffynnu a chyflawni ei botensial. Safwn yn gadarn yn erbyn pob math o hiliaeth, gwahaniaethu, a rhagfarn. ⁠Mae ein perthynas â’r Black Leadership Group yn tanlinellu ein hymrwymiad i ysgogi newid systematig ac i gefnogi tegwch mewn addysg a chyflogaeth.

Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. ⁠Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ac yn ymroddedig i sicrhau proses recriwtio gynhwysol a diragfarn.

Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE)

  • Mae tegwch wrth wraidd ein gweithrediadau, gan sicrhau triniaeth ddiduedd ar bob lefel.
  • Mae parch yn arwain ein rhyngweithiadau, gan feithrin diwylliant o empathi.
  • Nid nod yn unig yw cydraddoldeb, ond safon ofynnol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal waeth beth fo'i gefndir.
  • Mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, gan gydnabod cryfder ein gwahaniaethau a sut y gallant ein gyrru ymlaen.
  • Mae cynhwysiant yn ffynnu trwy ddeialog agored a llwybrau hygyrch i bob llais.
  • Mae ymgysylltu yn hanfodol, gan ein bod yn cynnwys cyflogeion yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan greu ymdeimlad o berthyn.

Trwy addysg barhaus, ymwybyddiaeth, a mentrau ymroddedig, rydym yn hyrwyddo FREDIE i greu gweithle cytûn a ffyniannus i bawb.

I drafod mater cydraddoldeb ac amrywiaeth, e-bostiwch gt.williams@gllm.ac.uk

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date