Darlithydd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Astudiaethau Plentyndod / Datblygiad ac Addysg Plant
Rydym yn chwilio am ddarlithydd(wyr) sesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Astudiaethau Plentyndod / Datblygiad ac Addysg Plant. Mae'r addysgu sydd ar gael yn cynnwys ystod o fodiwlau o'r rhaglen FdA/BA Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Lefelau 4 - 6), rhaglen FdA/BA Astudiaethau Plentyndod a darpariaeth Addysg Bellach yn ystod y dydd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Astudiaethau Plentyndod. Mae'r addysgu Addysg Uwch yn digwydd ar ddydd Mawrth a/neu ar ddydd Iau rhwng 9am a 9pm. Trefnir y ddarpariaeth Addysg Bellach yn ystod yr wythnos fel arfer rhwng 09:00 a 16:30. Mae'r addysgu sydd ar gael yn amrywiol iawn a byddai eich amserlen a'ch oriau yn amodol ar gyfuniad o'ch argaeledd a'r modiwl(au) sy'n cael eu haddysgu. Croesewir ceisiadau yn arbennig gan unigolion sydd â phrofiad diweddar o weithio ym maes nyrsio / gofal iechyd / gwaith cymdeithasol / gofal cymdeithasol / gofal a datblygiad plant - rolau lle mae gennych ddealltwriaeth gadarn o ddeddfwriaeth, polisi a materion cyfoes cyfredol yn y sector Datblygiad ac Addysg Plant neu'r sector Gofal Iechyd. Mae Modiwlau Addysg Uwch ac addysgu Addysg Bellach yn cynnwys pynciau fel Iechyd y Cyhoedd a Hybu Iechyd, Anghydraddoldebau Byd-eang, Amrywiaeth a Materion Cymdeithasol, Egwyddorion Moesegol mewn Iechyd, Llesiant a Gofal Cymdeithasol, Materion Cyfoes ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol, Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Hawliau Unigolion ac Ymarfer Proffesiynol, Hunaniaeth Broffesiynol a Gweithio Amlbroffesiynol, Safbwyntiau Addysg Gyfoes, Cefnogi Plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol i enwi ond rhai. Nodwch yn eich ffurflen gais unrhyw brofiad neu arbenigedd perthnasol i gefnogi eich cais. Bydd y swydd yn rhoi cyfle i chi ddatblygu fel darlithydd o dan arweiniad a chyda chefnogaeth yr Arweinwyr Rhaglen, y Cydlynwyr a'r Mentoriaid sy'n arwain y ddarpariaeth yn yr adran. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys paratoi a chyflwyno darlithoedd diddorol i'n dysgwyr ynghyd â'r gwaith gweinyddu, asesu a sicrhau ansawdd sy'n gysylltiedig â hynny. Anogwn y defnydd o ddulliau dysgu ac addysgu ymarferol a gweithredol er mwyn gwneud y dysgu'n ddiddorol. Cewch gyfle i gymhwyso eich gwybodaeth ac enghreifftiau o'ch profiadau i'r dysgu ac addysgu. Bydd hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill dealltwriaeth a gwerthfawrogiad trylwyr o'r dyletswyddau, yr heriau a'r buddion sy'n gysylltiedig â dilyn gyrfa ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu yn y sector Plentyndod. Bydd gan ein hymgeisydd delfrydol brofiad blaenorol o addysgu ac o weithio yn y sector(au) perthnasol, fodd bynnag rydym hefyd yn croesawu ac yn cefnogi arbenigwyr yn y sector sy'n awyddus i fentro i'r maes addysgu. |
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CM/193/25
Cyflog
£20.58 - £31.82 yr awr, yn cynnwys tâl gwyliau, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llangefni
Hawl gwyliau
Bydd hawl i wyliau pro rata gyda thâl ym mhob blwyddyn academaidd (sef y cyfnod rhwng 1 Medi a 31 Awst). Mae hyn yn cynnwys hawl pro rata i Wyliau Banc a Gwyliau Cyhoeddus traddodiadol Cymru (8 diwrnod) a hawl pro rata i 5 diwrnod effeithlonrwydd (noder y gall hyn newid yn bob blwyddyn). Caiff gwyliau blynyddol ei gyfrifo ar sail cyfran pro rata o'r hawl llawn amser o 46 awr sy'n gynwysedig yn y gyfradd a delir fesul awr. |
Patrwm gweithio
Hyd at 250 awr yn ystod Blwyddyn Academaidd 2025/26. Patrwm gwaith i'w gytuno yn dibynnu ar argaeledd. Mae'r pwnc a'r lefel cyflwyno yn seiliedig ar gymwysterau a phrofiad Bydd canran ychwanegol o rhwng 10% - 63.33% (yn ddibynnol ar feini prawf y pwnc) yn cael ei ychwanegu i'r oriau a weithir i adlewyrchu'r gwaith paratoi a marcio. Hyd at 35 wythnos y flwyddyn yn ystod tymor y Coleg |
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Athrawon
Math o gytundeb
Rhan Amser a Delir wrth yr Awr
Dyddiad cau
31 Gorff 2025
12:00 YH
(Ganol dydd)
Lawrlwythiadau
Sut i wneud cais
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu’r Saesneg; ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol nac yn arwain at unrhyw oedi.
- Lawrlwythwch eich ffurflen gais a’i chadw ar eich cyfrifiadur/dyfais (e.e. ffolder My Documents neu Downloads).
- Ewch i'r ffolder sy'n cynnwys y ffurflen gais ac agor y PDF gan ddefnyddio rhaglen megis Adobe Acrobat Reader.
Peidiwch ag agor y ddogfen yn eich porwr oherwydd efallai na fyddwch yn gallu ei chadw. - Llenwch y ffurflen, gan gynnwys y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Anfonwch eich ffurflen gais orffenedig i jobs@gllm.ac.uk. Dylid defnyddio teitl y swydd a ymgeisir admdani fel llinell pwnc eich e-bost.
Cysylltwch a ni drwy ebost jobs@gllm.ac.uk os ydych angen cymorth neu os oes gennych ymholiad pellach.
Mae ein ffurflen gais ar ffurf PDF. Bydd angen rhaglen megis Adobe Acrobat Reader ar eich cyfrifiadur / dyfais i agor a golygu'r ddogfen hon.
Pam gweithio i ni?
Diffiniadau o sgiliau iaith
Canllawiau i Ddarlithwyr
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Swyddi eraill
Mae gennym nifer o swyddi eraill gan gyflogwyr mewn busnesau bach a mawr ledled yr ardal. Mae'r cyflogwyr a restrir yma'n awyddus i roi cyfle i ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai.
Achrediadau Cyflogaeth
Datganiad Gwrth-hiliaeth
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, rydym yn rhoi blaenoriaeth i'r egwyddorion sylfaenol o Degwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE) ym mhob agwedd ar waith y sefydliad. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i feithrin gweithle lle mae pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i rymuso.
Rydym yn dathlu amrywiaeth ac yn falch o fod yn gymuned lle gall pob unigolyn ffynnu a chyflawni ei botensial. Safwn yn gadarn yn erbyn pob math o hiliaeth, gwahaniaethu, a rhagfarn. Mae ein perthynas â’r Black Leadership Group yn tanlinellu ein hymrwymiad i ysgogi newid systematig ac i gefnogi tegwch mewn addysg a chyflogaeth.
Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion o bob cefndir ac yn ymroddedig i sicrhau proses recriwtio gynhwysol a diragfarn.
Tegwch, Parch, Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant ac Ymgysylltu (FREDIE)
- Mae tegwch wrth wraidd ein gweithrediadau, gan sicrhau triniaeth ddiduedd ar bob lefel.
- Mae parch yn arwain ein rhyngweithiadau, gan feithrin diwylliant o empathi.
- Nid nod yn unig yw cydraddoldeb, ond safon ofynnol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal waeth beth fo'i gefndir.
- Mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu, gan gydnabod cryfder ein gwahaniaethau a sut y gallant ein gyrru ymlaen.
- Mae cynhwysiant yn ffynnu trwy ddeialog agored a llwybrau hygyrch i bob llais.
- Mae ymgysylltu yn hanfodol, gan ein bod yn cynnwys cyflogeion yn weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau, gan greu ymdeimlad o berthyn.
Trwy addysg barhaus, ymwybyddiaeth, a mentrau ymroddedig, rydym yn hyrwyddo FREDIE i greu gweithle cytûn a ffyniannus i bawb.
I drafod mater cydraddoldeb ac amrywiaeth, e-bostiwch gt.williams@gllm.ac.uk