Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu

Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.

Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu

Ymunwch â'n tîm i arwain y ffordd wrth ddatblygu, gweithredu a goruchwylio marchnata a chyfathrebu strategol. Helpwch ni i dyfu ein brand, rhannu ein cenhadaeth, ac ymgysylltu â thimau mewnol, partneriaid allanol a'n cymunedau lleol.

Beth fyddwch chi'n ei wneud:

  • Llunio a chyflwyno ymgyrchoedd dwyieithog ar draws platfformau digidol, cyfryngau cymdeithasol, print a digwyddiadau
  • Bod y llais i Menter Môn - creu cynnwys sy’n ysgogi
  • Gweithio'n agos gyda staff, cymunedau lleol, y cyfryngau a rhanddeiliaid
  • Olrhain ac adrodd ar effaith a llwyddiant ymgyrchoedd

Beth rydym yn chwilio amdano:

  • Rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg
  • Profiad mewn marchnata a chyfathrebu
  • Sgiliau cryf mewn cynllunio, ysgrifennu copi, digidol a chyfryngau cymdeithasol
  • Trefnus, creadigol, ac yn gallu jyglo sawl prosiect yn effeithiol

Pam Menter Môn?

  • Mae swyddi Menter Môn yn cynnig y cyfle i chi weithio mewn gofod Cymraeg, lle mae’r iaith yn rhan gwbl naturiol o fywyd gwaith.
  • Fel rhan o becyn cyflogi cystadleuol, mae Menter Môn yn cynnig pensiwn Llywodraeth Leol (gyda Menter Môn yn cyfrannu tua 22%)
  • Mwynhau gweithio hyblyg/hybrid mewn amgylchedd gefnogol

Sut i wneud cais

Gwefan Menter Mon


Manylion Swydd

Lleoliad

Llangefni

Sir

Ynys Môn

categori

Llawn Amser

Sector

Busnes a Rheoli / Business & Management

Gwefan

https://www.mentermon.com/swyddi/

Dyddiad cau

22.07.25

Logo Ariennir gan Lywordaeth Cymru

Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.


Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?

Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?

Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.

Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:

  • Prentisiaethau
  • Swyddi llawn amser
  • Swyddi rhan-amser
  • Contractau cyfnod penodol

I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk

Ffurflen Hysbysfwrdd Swyddi

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date