Rheolwr Cynlluniau Cymunedol
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Prif ddiben y Swydd:
Gweithredu dyletswyddau rheolwr llinell uniongyrchol i staff a rhoi arweiniad i ddarparu
prosiectau yn y maes ieithyddol a chymunedol drwy amrywiol ffynonellau ariannu, bydd hyn
yn cynnwys gweithio tuag at y nod o sicrhau fod Ynys Môn yn parhau yn gadarnle i’r
Gymraeg.
Prif Ddyletswyddau:
- Llunio, gweithredu a monitro dogfennau strategol, yn cynnwys Cynllun Corfforaethol, Cynllun Gweithredu (a chynlluniau gwaith), ac unrhyw ddogfennau eraill ar gyfer cyllidwyr a chefnogwyr.
- Sicrhau fod gwaith y tîm yn cyd-fynd â strategaethau’r Llywodraeth, a’i bod yn cyfrannu at ac yn dylanwadu ar y nodau ac amcanion ar lefel lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
- Cymryd cyfrifoldeb llawn dros y Fenter Iaith a sicrhau cyswllt gyda holl gynlluniau cymunedol perthnasol, a sicrhau perthynas dda gyda rhwydwaith cenedlaethol y Mentrau.
- Cyfarfod gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol, partneriaid hybu’r Gymraeg, ysgolion, Colegau a chyrff eraill i adnabod cyfleoedd cydweithio cyson, ac ymestyn cyrhaeddiad ac effaith y gwaith.
- Adrodd yn ôl i arianwyr ar gynnydd a chyflawniadau yn rheolaidd ac i safon uchel.
- Clustnodi adnoddau i weithredu cynlluniau, a chyfrifoldeb am ddenu cyllid i ddatblygu ac ehangu ar waith y tîm yn barhaus.
- Cyfrifoldeb a goruchwyliaeth ar reolaeth ariannol prosiectau cymunedol amrywiol, gan adnabod risgiau, a sicrhau fod defnydd gorau yn cael ei wneud o’r arian.
- Cynnal perthynas weithredol effeithiol gyda phartneriaid allweddol, yn arianwyr a phartneriaid ymarferol – a gweithredu’n rhagweithiol i greu partneriaethau newydd.
- Sicrhau fod cyfleoedd i staff ddatblygu, a chael hyfforddiant perthnasol i’w swydd.
- Sicrhau bod proffil cyhoeddus uchel a chadarnhaol i waith y tîm.
- Cyfrifoldeb am Iechyd a Diogelwch staff, aelodau a gwirfoddolwyr gan sicrhau fod systemau’r cwmni yn cael eu dilyn i ddiogelu pawb.
- Bydd deilydd y swydd yn gynrychiolydd balch o gwmni Menter Môn ac yn gweithio’n rhagweithiol i sicrhau enw da i’r Cwmni
Sut i wneud cais
Gwefan Menter Mon
Manylion Swydd
Lleoliad
Llangefni
Sir
Ynys Môn
categori
Llawn Amser
Sector
Busnes a Rheoli / Business & Management
Gwefan
https://www.mentermon.com/swyddi/
Dyddiad cau
06.10.25


Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk