Cogydd/Cynorthwyydd Cegin
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Rydym yn fwyty bach sy'n gweini bwyd 7 diwrnod yr wythnos. Mae oriau a dyddiau gweithio hyblyg ar gael. Rydym yn chwilio am gogydd/cynorthwyydd cegin creadigol, dibynadwy a brwdfrydig i ymuno â'n tîm.
Bydd y dyletswyddau’n cynnwys:
- Sicrhau diogelwch a safon y bwyd
- Paratoi bwyd
- Rheoli'r gegin
- Rheoli ansawdd y seigiau
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chogydd profiadol i ddechrau tra byddwch chi'n dysgu sut mae'r bwyty'n cael ei redeg. Yna bydd cyfle i chi weithio'n annibynnol.
Mae croeso i unrhyw un wneud cais, waeth faint o brofiad sydd gennych.
Cyfradd cyflog fesul awr i'w thrafod yn ystod y cyfweliad
Sut i wneud cais
Anfonwch e-bost yn cynnwys eich manylion a’ch CV Y.gwydyr.hotel@gmail.com, neu ffoniwch 07464710257
Manylion Swydd
Lleoliad
Dolwyddelan
Sir
Conwy
categori
Llawn Amser
Sector
Lletygarwch ac Arlwyo / Hospitality & Catering
Gwefan
https://www.facebook.com/share/1YduR418YR/?mibextid=wwXIfr
Dyddiad cau
14.07.25


Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk