Administrative Apprentice
Noder: Derbynnir y wybodaeth a ddangosir am bob swydd wag yn uniongyrchol gan y cyflogwr a enwir. Er ein bod ni (Grŵp Llandrillo Menai) yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chanllawiau cydraddoldeb ac amrywiaeth, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu anwaith yn y geiriad a ddefnyddir.
Ysgol y Moelwyn yw ysgol gymysg fach ar gyfer disgyblion 11–16 oed. Mae wedi’i lleoli ar gyrion y dref arbennig o Flaenau
Ffestiniog ac yn ysgol sy’n gofalu am ei disgyblion ac sydd wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn y gymuned. Mae pob plentyn yn
bwysig ac yn cael pob cyfle i ddatblygu ac ehangu ei dalentau.
Mae dyletswyddau yn cynnwys:
Mae’r ysgol yn edrych i recriwtio prenstis gweinyddol swyddfa, i gydweithio â staff gweinyddol profiadol, ac i ymgymryd
â’r tasgau canlynol:-
- Cynnal / diweddaru systemau swyddfa, yn cynnwys rheoli data a ffeilio
- ateb galwadau ffôn
- croesawuy a chyfarfod ymwelwyr
- trefnu a rheoli dyddiaduron
- darparu cefnogaeth gweinyddol cyffredinol i staff yr ysgol.
- Trefnu a mynychu cyfarfodydd
- Sgrinio galwadau ffôn ac ymholiadau, a delio gyda nhw pan yn briodol
- Anfon a dosbarthu post
- Cysylltu â rhieni, a staff
- Cynnal / diweddaru systemau ysgol ar-lein
Meini Prawf Hanfodol:
- Cymraeg – sgiliau ysgrifenedig a llafar Hanfodol (Lefel 4+)
- Awydd i ddysgu
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol sydd yn berthnasol i blant ac oedolion
- Sgiliau trefnu da
- Parodrwydd i weithio fel rhan o dîm
- Dibynadwy
- Agwedd broffesiynol
- Bydd lefel o aeddfedrwydd yn ofynnol wrth weithio mewn amgylchedd ysgol
- Prydlon, â’r gallu i reoli amser yn dda
Meini Prawf Dymunol:
- Sgiliau ffôn dda
- Ymddangosiad smart
- Uchelgeisiol ac yn weithiwr caled
- Awydd i fod yn ddelfryd ymddwyn cadarnhaol i bobl ifanc
Sut i wneud cais
Drwy'r ddolen wefan a ddarperir
Manylion Swydd
Lleoliad
Blaenau Ffestiniog
Sir
Gwynedd
categori
Prentisiaethau
Sector
Arbenigol/Arall - Specialist / Other
Gwefan
https://achievemoretraining.com/vacancies-main/vacancies/item/ysgol-moelwyn-prentis-gweinyddol
Dyddiad cau
01.12.25


Biwro Cyflogaeth a Menter yw CAMVA@LlandrilloMenai a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Gwarant Pobl Ifanc.
Oes gennych chi swyddi gwag yr hoffech eu llenwi?
Hoffech chi allu cyrraedd cynulleidfa darged o filoedd o fyfyrwyr?
Felly beth am hysbysebu eich swyddi AM DDIM ar ein hysbysfwrdd.
Gall y swyddi y rhown sylw iddynt ar eich rhan gynnwys:
- Prentisiaethau
- Swyddi llawn amser
- Swyddi rhan-amser
- Contractau cyfnod penodol
I hysbysebu swydd wag, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen isod a'i hanfon i employerjobs@gllm.ac.uk