Dyfarniad NVQ Lefel 3 VTCT mewn Harddu Ewinedd gan ddefnyddio Gel UV (QCF)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Caiff hyn ei gyflwyno fel model hybrid gyda mynediad ar-lein i fideos, llyfr gwaith a gwybodaeth danategol i'ch caniatau i basio'r cwrs. Bydd gofyn i chi ymarfer a chyflwyno eich fideos ar gyfer eu hasesu. Cynhelir yr asesiad terfynol yn salon masnachol y coleg. Un diwrnod yr wythnos am 11 wythnos neu 3 awr gyda'r nos am 24 wythnos - oriau dysgu dan arweiniad 80
Dyfarniad NVQ Lefel 3 VTCT mewn Harddu Ewinedd gan ddefnyddio Gel UV (QCF)Cyrsiau Rhan-amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r uned hon ynglŷn â darparu gwasanaethau i harddu, cynnal, atgyweirio a thynnu ewinedd gan ddefnyddio gel UV, ar y dwylo a'r traed.
Mae'n cynnwys ymgynghori gyda'r cleient i sefydlu eu gofynion ac adnabod unrhyw wrth-arwyddion a all effeithio ar y gwasanaeth. Mae hefyd yn cynnwys paratoi i harddu ewinedd i wella'n gosmetig neu guddliwio ewinedd gan ddefnyddio technegau cerflunio, gosod tipiau a blaenau a gels UV lliw. Mae'r gallu i deilwrio'r gwasanaeth a chyngor ôl-ofal i weddu i anghenion cleientiaid unigol hefyd yn ofynnol.
Gofynion mynediad
Does yna ddim cymwysterau rhagofynnol ffurfiol sydd yn rhaid i chi eu cael cyn ymgymryd â'r cymhwyster hwn.
Cyflwyniad
Yn rhan o'r cymhwyster, mae gofyn i chi gynhyrchu portffolio tystiolaeth a all gymryd y ffurfiau canlynol:
- Gwaith a arsylwyd
- Datganiadau gan dystion
- Cyfryngau clyweledol
- Tystiolaeth o ddysgu neu gyrhaeddiad blaenorol
- Cwestiynau ysgrifenedig
- Cwestiynau llafar
- Aseiniadau
- Tystiolaeth astudiaethau achos.
- Asesiadau yn y coleg
Asesiad
Gwaith a arsylwyd
2 Arholiad i gwblhau'r uned hon
Dilyniant
Cyfleoedd gwaith
Diploma Lefel 2/3 mewn Harddwch
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Trin Gwallt a Therapi Harddwch