Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Hyfforddi i fod yn aelod o Griw Caban

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 noson yr wythnos am 24 wythnos, gydag ymweliadau allanol i gael hyfforddiant gan gwmnïau hedfan.

Cofrestrwch
×

Hyfforddi i fod yn aelod o Griw Caban

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi swydd sy'n cynnig cyfle i chi deithio, i ddarganfod diwylliannau newydd a chymysgu â phobl o bob cwr o'r byd. Bydd ein cwrs Hyfforddi i fod yn aelod o Griw Caban yn cyflwyno'r sgiliau hanfodol er mwyn i chi ddilyn eich gyrfa ddelfrydol yn y diwydiant awyrennau.

Byddwch yn dysgu sut mae cydlynu hediad diogel, sut i baratoi caban ymdrin â theithwyr, cyflawni gweithdrefnau diogelwch yn ogystal ag ymdrin â digwyddiadau brys. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn hyfforddiant ymarferol ac yn cael cyfle i gael profiad gwirioneddol o'r swydd yn ystod ymweliad allanol.

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond dylai safon eich Saesneg llafar ac ysgrifenedig fod yn dda. Gofynnir i fyfyrwyr wisgo gwisg Criw Caban y coleg i bob sesiwn, gan gynnwys y sesiynau hyfforddi allanol.

Cyflwyniad

Rhaid i'r dysgwyr gwblhau 6 uned orfodol yn llwyddiannus. Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Cyflwyniadau
  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Ymweliadau addysgol
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithiol)

Asesiad

  • Asesiadau ac aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios gwaith
  • Perfformio ac arsylwi
  • Arddangos sgiliau ymarferol

Dilyniant

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys cyrsiau eraill ym maes Teithio a Thwristiaeth.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Teithio a Thwristiaeth

Dwyieithog:

n/a

Teithio a Thwristiaeth

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Teithio a Thwristiaeth