Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Hyfforddi i fod yn Gynrychiolydd Cyrchfan Wyliau

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    24 wythnos, 1 noson yr wythnos

Cofrestrwch
×

Hyfforddi i fod yn Gynrychiolydd Cyrchfan Wyliau

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn yn darparu'r sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sy'n angenrheidiol i fod yn Gynrychiolydd Cyrchfan Wyliau.

Gall y cymhwyster fod yn addas i rai sydd mewn addysg lawn neu ran-amser neu gall fod yn baratoad at waith i rai sy'n ddi-waith neu'n awyddus i newid gyrfa neu swydd.

Gofynion mynediad

Dylai'r dysgwyr fod yn 18 oed neu'n hŷn.

Cyflwyniad

Rhaid i'r dysgwyr gwblhau 4uned orfodol ac 1 uned ddewisol yn llwyddiannus. Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Cyflwyniadau
  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Ymweliadau addysgol
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithiol)

Asesiad

  • Asesiadau ac aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios gwaith
  • Perfformio ac arsylwi
  • Arddangos sgiliau ymarferol

Dilyniant

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys cyrsiau eraill ym maes Teithio a Thwristiaeth.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Teithio a Thwristiaeth

Dwyieithog:

n/a

Teithio a Thwristiaeth

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Teithio a Thwristiaeth