Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cefnogi Dysgu ac Addysgu Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    12 mis

Cofrestrwch
×

Cefnogi Dysgu ac Addysgu Lefel 2

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Prif ddiben y cymhwyster yw cadarnhau eich bod yn alwedigaethol gymwys yn eich rôl o fewn ysgol gynradd ac uwchradd fel cynorthwyydd addysgu ar gyfer grŵp o blant a/neu gymorth un-i-un plentyn.

Bod yn hyderus i gefnogi plant oed ysgol gyda'u haddysg, problemau ymddygiad ac unrhyw blant ag anghenion ychwanegol.

Tystiolaeth Dysgwr

Victoria. Diploma Lefel 2 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion

Dywedodd Victoria: “Dechreuais fel prentis cynorthwyydd addysgu yn Ysgol Aberconwy ym mis Medi 2021. Hon oedd fy rôl gyntaf mewn ysgol uwchradd ac mi oedd yn anodd ar y dechrau ond mi wnes i setlo yn fuan i mewn i’r 6ed Dosbarth yn fwy fel mentor arweiniol yn hytrach na chynorthwyydd addysgu. Roedd Michele yn gallu helpu i egluro fy rôl gyda’r ysgol. Roedd cael rhyddid i gwblhau’r unedau pan oedd yn gweddu orau i mi yn ddelfrydol gan y byddwn yn gwneud ychydig ohonynt bob nos ar ôl i fy mhlant fynd i’r gwely. Golygai hyn y gallwn dreulio’r penwythnosau a hanner tymor gyda fy mhlant Roedd y cymorth a gefais drwy gydol y cwrs yn werthfawr iawn i mi yn bersonol. Roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus yn e-bostio fy aseswr Michele gydag unrhyw gwestiwn. Roedd Michele yn cadw mewn cysylltiad â mi yn rheolaidd ac yn aml byddai'n cael ein galwadau Zoom misol yr oedd Michele bob amser yn sicrhau eu bod ar amser neu ddyddiad a oedd yn addas i mi weithio ac os nad oedd yr amser/dyddiad yn gweddu roedd hi bob amser yn hapus i aildrefnu ar gyfer amser mwy cyfleus. Helpodd Michele i mi fynd yn ôl ar y trywydd iawn a helpodd i'm gwthio i'm llawn botensial. Roedd hi’n gwybod fy mod i eisiau cwblhau’r cwrs cyn gwyliau’r haf ac fe helpodd hi fi drwy anfon adborth o’r asesiadau yn gyflym. Roedd yr adborth o’r unedau bob amser i’r safon uchaf a phan ddaeth hi i arsylwadau helpodd Michele i mi dawelu gan fy mod yn nerfus! Diolch am bob cymorth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Diolch yn Fawr"

Gofynion mynediad

Cynorthwywyr Dysgu sy'n gweithio gyda phlant un i un a/neu sy'n cefnogi grwpiau bach.

Bod yn gyflogedig neu’n gwirfoddoli o leiaf 16 awr yr wythnos.

Mae pob lle yn amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Darperir mwyafrif yr hyfforddiant yn y gweithle/Ar-lein

Bydd aseswr yn ymweld â'ch gweithle i gwblhau o leiaf dri arsylwad

Rhoddir portffolio electronig i chi a bydd aseswr yn eich cefnogi unwaith y mis naill ai drwy ymweliad â'ch gweithle neu drwy alwad fideo.

Asesiad

Cwblhau portffolio o dystiolaeth (Defnyddio E-bortffolio Onefile).

Bydd eich aseswr yn trefnu i ymweld â'ch gweithle i asesu eich gallu i gefnogi disgyblion gyda thasgau llythrennedd, rhifedd a TGCh. Bydd angen i chi hefyd ddangos eich gallu i annog ymddygiad cadarnhaol, cadw at bolisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch, a dangos cefnogaeth effeithiol a sgiliau cyfathrebu gyda disgyblion ac aelodau o'r tîm.

Bydd gwaith damcaniaethol yn cael ei wneud drwy:

  • Astudiaethau achos
  • Cwestiynau ac Atebion
  • Trafodaethau
  • Cwblhau unedau gwaith trwy gyfuniad o unedau gorfodol a dewisol yn dibynnu ar eich rôl waith. Dylid cwblhau'r rhain yn fisol.
  • Tystiolaethau gan athrawon

Bydd y cymhwyster yn cael ei farcio gan aseswr gweithle a'i safoni gan y swyddog sicrhau ansawdd mewnol.

Dilyniant

Os yw rôl eich swydd yn caniatáu gallwch symud ymlaen i gymhwyster CDA Lefel 3.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dwyieithog:

n/a

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth