Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    8 wythnos (2 awr yr wythnos)

Gwnewch gais
×

Gweithdy Crochenwaith

Potensial (Dysgu Gydol Oes)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Oes gennych chi ddiddordeb mewn crochenwaith ac am gael profiad anffurfiol o'r grefft? Oes gennych chi syniad yr hoffech ei ddatblygu? Bydd tiwtoriaid profiadol yn datblygu eich sgiliau ac yn eich cynorthwyo i gyflawni'ch amcanion.

Bydd y gweithdai'n cael eu cynnal dros wyth wythnos ac maent wedi'u cynllunio i'ch cyflwyno i'r gwahanol dechnegau sy'n rhan o adeiladu â llaw: pinsio, torchi, adeiladu slabiau a mowldio drwy bwyso. Caiff dulliau addurno arwyneb a gwydro eu cynnwys yn y sesiynau. Yn ogystal, ceir arddangosiadau ar Droell y Crochenydd (Taflu) os gofynnir am hyn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â David Clarke: clarke1d@gllm.ac.uk

Gofynion mynediad

Dim anghenion mynediad ffurfiol, ond diddordeb mewn crochenwaith yn ddymunol.

Cyflwyniad

  • Cyflwynir y cwrs drwy arddangosiadau.
  • Caiff sesiynau eu cyflwyno fesul cam ac mae'r gweithdai'n addas ar gyfer pob lefel, o ddechreuwyr llwyr i ddysgwyr mwy profiadol.

Asesiad

Trwy'r eitemau a gynhyrchir.

Dilyniant

  • Gweithdy Crochenwaith Tymor 1 a 2
  • Darpariaeth Ran-amser – Gwaith Gwydr, Lluniadu a Phaentio, Bywluniadu, Brodio, Gwneud Printiau, Llyfrau Braslunio Artistiaid
  • Diploma Sylfaenol Rhan-amser mewn Celf a Dylunio

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Potensial (Dysgu Gydol Oes)

Lefel: 1

Maes rhaglen:

  • Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth

Dwyieithog:

n/a

Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth

Myfyriwr yn gwneud llun