Plymio - Dilyniant (Noswaith)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 flwyddyn, yn rhan-amser, 2 noson yr wythnos
£500
Plymio - Dilyniant (Noswaith)Cyrsiau Rhan-amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Noder: Gellir ariannu'r cwrs hwn trwy'r rhaglen Cyfrif Dysgu Personol neu, os nad ydych yn gymwys, mae'r cwrs ar gael ar gost o £500. Cysylltwch â'r coleg i gael rhagor o wybodaeth - generalenquiries@gllm.ac.uk
Mae’r cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu eu:
- Dealltwriaeth o gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i wasanaethau adeiladu
- Dealltwriaeth o agweddau ar gyflogaeth a chyflogadwyedd yn y sector
- Sgiliau cyflogadwyedd a dealltwriaeth o sut mae’r rhain yn berthnasol i arfer cyfoes mewn crefft ddewisol
- Eu gwybodaeth a’u gallu i gymhwyso gofynion iechyd a diogelwch gweithio ar safleoedd, gydag offer a chydag eraill wrth weithio mewn crefft ddewisol
- Dealltwriaeth o’r mathau o waith a phrosiectau a wneir mewn crefft ddewisol, a chyd-ddibyniaeth y gwaith hwn gyda gwaith gan grefftwyr eraill, yn y cyfnod dylunio, adeiladu, defnyddio a chynnal a chadw
- Dealltwriaeth o’r offer, technegau, defnyddiau a thechnolegau a ddefnyddir mewn crefft ddewisol a sut maent yn newid, ac wedi newid, dros amser
- Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n ofynnol mewn llwybr masnach dewisol, fel y nodir yn y ddogfen hon i’r safonau cenedlaethol perthnasol
- Sgiliau ymarferol wrth gyflawni ystod eang o dasgau mewn crefft ddewisol
- Y gallu i gynllunio a gwerthuso eu perfformiad yn effeithiol wrth gyflawni ystod eang o dasgau mewn crefft ddewisol
Mae’r unedau craidd i’w hastudio yn cynnwys:
- Cyflogaeth a Chyflogadwyedd yn y Sector Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
- Newid Arferion Dros Amser
- Cynllunio a Gwerthuso Gwaith yn y Sector Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu yng Nghymru
Unedau pwnc-benodol i’w hastudio:
- Deall Egwyddorion Gwyddonol
- Deall Systemau Plymio a Gwresogi Craidd
- Deall Systemau Dŵr Oer
- Deall Systemau Dŵr Poeth
- Deall Systemau Gwres Canolog
- Deall Systemau Dŵr Glaw
- Deall Systemau Glanweithdra
- Perfformio Gosod Systemau Plymio a Gwresogi
Gofynion mynediad
Rhaid eich bod wedi cwblhau craidd/sylfaen NEU fod yn gweithio mewn diwydiant gyda phrofiad perthnasol.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs drwy sesiynau addysgu a sesiynau ymarferol.
Asesiad
- Asesiad ymarferol yn ystod y cwrs
- Arholiad ar-lein
- Trafodaeth broffesiynol gyda thiwtor
Dilyniant
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr geisio symud ymlaen i gwrs lefel uwch yn y Coleg, ceisio Prentisiaeth briodol neu fynd yn syth i gyflogaeth.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig