Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Pecyn OFTEC (OFT101/105E & 600A)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) - Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Mae'r cwrs hwn un ai'n gwrs tridiau ar gyfer ymgeiswyr Categori 1 (dau ddiwrnod o hyfforddiant ac un diwrnod o asesiadau) neu'n gwrs pedwar diwrnod ar gyfer ymgeiswyr Categori 2 (dau ddiwrnod o hyfforddiant a dau ddiwrnod o asesiadau). Mae cost y cwrs yn cynnwys yr holl hyfforddiant, yr asesiadau a'r dystysgrif.

Cofrestru
×

Pecyn OFTEC (OFT101/105E & 600A)

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Llyfrau Cwrs

Noder nad yw llyfrau cwrs yn gynwysedig yn ffi'r cwrs, ac nid ydynt yn cael eu darparu ar gyrsiau a ariennir.

⁠Gellir prynu'r llyfrau sydd eu hangen trwy ein swyddfa un ai:

  • ⁠Cyn i'r cwrs ddechrau (argymhellir), neu
  • Ar ddiwrnod eich hyfforddiant.

Mae’r llyfrau canlynol yn orfodol ⁠ar gyfer y cwrs hwn:

OFTEC- Technical Manual

Mae OFTEC-101 yn ofynnol i unrhyw weithredydd sy'n dymuno gweithio ar offer jetiau gwasgedd domestig ac mae'n cynnwys

- Codau ymarfer

- Ynysu trydan yn ddiogel

- Camau ymarferol comisiynu boeleri

- Gwasanaethu llosgyddion

- Adnabod namau ar systemau

- Adnabod ac unioni namau mewn boeleri/llosgyddion

- Dadansoddi hylosgiad

- Theori hylosgiad

- Gofynion awyru

Yn ogystal, rhaid i'r gweithredydd feddu ar y cymwysterau gosod tanciau a gosod systemau perthnasol sy'n i'r gwaith maent yn dymuno ei gyflawni, fel y rhestrir isod:

OFTEC-105E - Gosod Systemau Llosgi Olew Domestig a Mesurau i Arbed Ynni mewn Adeiladau, gan gynnwys

-Codau ymarfer

-Dyluniadau systemau gwresogi

-Adnabod cynlluniau gosod systemau

-Awyru a ffliwiau

-Cyfrifyddu pibellwaith

-Mesurau i arbed ynni

-Datgysylltu boeleri.

Mae OFT600A yn canolbwyntio ar Systemau Storio a Chyflenwi Olew Domestig ac Annomestig, yn benodol

-Codau ymarfer

-Adnabod tanwydd

- Sut i osod systemau tanc

- Dyluniad tanciau

- Ynysu trydan yn ddiogel

- Safonau Prydain.

Gofynion mynediad

Llyfrau Cwrs

Noder nad yw llyfrau cwrs yn gynwysedig yn ffi'r cwrs, ac nid ydynt yn cael eu darparu ar gyrsiau a ariennir.

⁠Gellir prynu'r llyfrau sydd eu hangen trwy ein swyddfa un ai:

  • ⁠Cyn i'r cwrs ddechrau (argymhellir), neu
  • Ar ddiwrnod eich hyfforddiant.

Mae’r llyfrau canlynol yn orfodol ⁠ar gyfer y cwrs hwn:

OFTEC- Technical Manual

Bwriadwyd y cwrs hwn ar gyfer technegwyr olew sy'n dymuno parhau i fod wedi cofrestru ag OFTEC neu ar gyfer y rhai sy'n newydd i OFTEC, neu sydd angen cofrestru ag OFTEC, sy'n meddu ar brofiad / cymwysterau addas.

Gofynnir i'r holl gyfranogwyr i ddod â'u tystysgrifau gwreiddiol (OFTEC) a phedwar llun maint pasbort gyda nhw ar y diwrnod cyntaf, gall methiant i ddarparu'r rhain arwain at fethu parhau gyda'r hyfforddiant ar y diwrnod.

Os ydych chi'n newydd i'r diwydiant heb unrhyw brofiad na sgiliau blaenorol (Categori 3), fe'ch cynghorir i ddilyn y cwrs OFTEC 50 sylfaenol.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cynnwys astudio'r theori a hyfforddiant ymarferol

Asesiad

Asesiadau ysgrifenedig ac ymarferol.

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn byddwch yn gallu gwneud cais i gofrestru ag OFTEC

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dysgwyr yn sicrhau fod y wal frics yn lefel