Triniwr Telesgopig Llwythi Crog NPORS (N138)
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) - Llangefni
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
2 ddiwrnod dros 1 wythnos
Triniwr Telesgopig Llwythi Crog NPORS (N138)
Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae grantiau CITB ar gael i gwmnïau cofrestredig sy'n talu ardoll i'r CITB. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Darparu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r meysydd canlynol:
- Dealltwriaeth sylfaenol o'r diwydiant, peryglon gweithio yn y diwydiant a chyfrifoldebau gweithredwyr
- Gallu cydymffurfio â gofynion y gwneuthurwr yn unol â data technegol, cydymffurfio â rheoliadau a deddfwriaeth berthnasol
- Gallu lleoli, nodi ac esbonio llwythi gweithio diogel, siart capasiti codi ac egluro sut y gall y gwneuthurwr leihau'r capasiti codi wrth symud llwyth crog, gwahanol gyfluniadau codi ac ystodau gweithio
- Nodi ac esbonio gwahanol weithdrefnau codi, esbonio pa dasg a allai ddisgyn i bob categori
- Nodi ac egluro craidd disgyrchiant a chyfrifo amcangyfrif o bwysau llwythi
- Nodi unrhyw beryglon uwchben / gerllaw
- Gallu cytuno ar godau signal / signalau llaw, cyfeiriad symud, gweithio diogel a lleoliad glanio diogel gyda'r taflwr / signalwr
- Sicrhau fod y triniwr telesgopig mewn cyflwr diogel a bod yr atodiadau wedi'u gosod yn gywir
- Gwirio cywirdeb a diogelwch y llwyth
- Gallu codi a symud llwyth i safle dynodedig mewn modd diogel a rheoledig, gan sicrhau cyn lleied o symudiadau afreolus â phosibl
- Ystyriaethau amgylcheddol
Cyflawni'r holl weithdrefnau cau i lawr a diogelu
Gofynion mynediad
- Wedi cwblhau prawf Sgrin Gyffwrdd CSCS yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
- Mae trwydded yrru'n ddymunol ond nid yn hanfodol.
- Dealltwriaeth dda o Saesneg llafar ac ysgrifenedig
Cyflwyniad
- Cyflwyniadau yn yr ystafell ddosbarth
- Arddangosiadau ymarferol
- Ymarfer o dan oruchwyliaeth tiwtor.
Asesiad
- Asesiad ymarferol
- Arholiad theori.
Dilyniant
Cyrsiau hyfforddi eraill ym maes peiriannau trwm ac adeiladu a fyddai'n galluogi'r dysgwyr i weithio ac ehangu eu sgiliau yn y diwydiant adeiladu.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

