Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diploma Cenedlaethol NEBOSH i Reolwyr Proffesiynol Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    3 uned, ND1, ND2 a ND3.

    Cyflwynir pob uned yn ystod 1 diwrnod yr wythnos am 12 wythnos.

    Mae'r cymhwyster cyfan yn galw am isafswm o 191 awr addysgu, ac argymhellir 144 awr o astudio personol a 140 o oriau asesu.

Gwnewch gais
×

Diploma Cenedlaethol NEBOSH i Reolwyr Proffesiynol Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol

Proffesiynol

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Diploma Cenedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol yw'r cymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n berthnasol i weithwyr proffesiynol iechyd a diogelwch, neu'r rhai sy'n dymuno gweithio yn y maes, a phobl â chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sydd am gael dealltwriaeth ddyfnach ynghylch iechyd a diogelwch.

Ei fwriad yw rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i ddysgwyr sy'n dilyn gyrfa fel swyddog proffesiynol iechyd a diogelwch ac mae'n darparu sylfaen gadarn ar gyfer symud ymlaen i astudio ôl-raddedig.

Mae astudio'r cymhwyster yn ymrwymiad sylweddol, ac mae angen rhoi cryn ymroddiad ac amser i bob uned.

Gofynion mynediad

Rhaid i ddysgwyr fod wedi cyflawni'r Dystysgrif Gyffredinol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol neu gymhwyster SCQF Lefel 6 neu 7 cyfatebol.

Cyflwyniad

AR-LEIN

Cyflwynir y cwrs gan diwtor drwy gyfrwng Microsoft Teams, gyda chyflwyniadau PowerPoint, a gweithgareddau a thrafodaeth unigol ac mewn grŵp ar-lein.

Gosodir gwaith cartref bob wythnos a rhaid ei gwblhau.

Disgwylir i'r dysgwyr gynnal gwaith ymchwil ychwanegol hefyd.

YSTAFELL DDOSBARTH

Cyflwynir y cwrs gan diwtor gan ddefnyddio cyflwyniadau PowerPoint, a gweithgareddau a thrafodaeth unigol ac mewn grŵp yn yr ystafell ddosbarth.

Gosodir gwaith cartref bob wythnos a rhaid ei gwblhau.

Disgwylir i'r dysgwyr gynnal gwaith ymchwil ychwanegol hefyd.

Asesiad

Caiff pob uned ei hasesu fel a ganlyn:

Uned ND1 - Asesiad ysgrifenedig yn cynnwys 4 rhan:

  • Cwestiynau sy'n seiliedig ar senario.
  • Gweithgaredd yn y gweithle.
  • Efelychiadau a datganiadau myfyriol.
  • Pwnc ymchwil.

Argymhellir treulio 60 awr i'w gwblhau, a rhaid ei gwblhau cyn pen 6 wythnos (30 diwrnod gwaith).

Uned ND2 - Astudiaeth Achos wedi'i seilio ar senario.

Argymhellir treulio 40 awr i'w gwblhau, a rhaid ei gwblhau cyn pen 4 wythnos (20 diwrnod gwaith).

Uned ND3 - Astudiaeth Achos wedi'i seilio ar senario.

Argymhellir treulio 40 awr i'w gwblhau, a rhaid ei gwblhau cyn pen 4 wythnos (20 diwrnod gwaith).

Dilyniant

Cyrsiau eraill yn y Grŵp

Other Grwp Courses

Gwybodaeth campws Dysgu o Bell

Remote/online tutor led via Microsoft Teams

Gwybodaeth campws CIST-Llangefni

Llangefni or on customer premises.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Diogelwch

Dwyieithog:

Na

Iechyd a Diogelwch

Dau fyfyriwr yn trafod gwaith ar liniadur

Mewn cydweithrediad â'r partner
dysgu achrededig: Delyn Safety UK