Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif CACHE L2 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Lleoliad cymunedol
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    17 wythnos, 3 diwrnod yr wythnos

Cofrestrwch
×

Tystysgrif CACHE L2 mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Cynigir y cwrs hwn mewn lleoliadau cymunedol yn Llandrillo-yn-Rhos a Prestatyn.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer rhai sydd yn gweithio mewn ysgol dan oruchwyliaeth neu rai sydd eisiau gweithio mewn ysgolion.

Gofynion mynediad

  • Wedi cwblhau 'Cyflwyniad i Fod yn Gynorthwyydd Dosbarth' a/neu brofiad hir o weithio mewn ysgol.
  • Sgiliau Llythrennedd Lefel 1 cryf neu lefel cyfwerth

Bydd gofyn i chi hefyd fod yn gweithio mewn ysgol neu'n gwirfoddoli mewn awyrgylch ysgol.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs lefel 2 hwn gan amlaf yn y coleg mewn sesiynau dosbarth, gweithgareddau ymarferol a thiwtorialau ac yn cynnwys lleoliad gwaith 2 ddiwrnod mewn ysgol.

Asesiad

Mae angen cyflwyno portffolio o waith yn dangos gwybodaeth ysgrifenedig a chaiff sgiliau eu hasesu drwy arsylwadau uniongyrchol ar leoliad gwaith mewn ysgol.

Dilyniant

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Dyfarniad Lefel 3 NCFE CACHE mewn Cefnogi Addysgu a Dysgu FfCCh
  • Dyfarniad Lefel 2 NCFE CACHE mewn Cefnogi Pobl sydd ag Anableddau Dysgu

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Hyfforddiant Athrawon

Dwyieithog:

n/a

Hyfforddiant Athrawon

Darlithydd yn arwain dosbarth