Termau Meddygol i Weinyddwyr Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Abergele
- Math o gwrs:Rhan amser
- Dull astudio:Rhan amser
- Lefel:2
- Maes rhaglen:Busnes a Rheoli
Busnes a Gweinyddiaeth - Hyd:
3 awr yr wythnos am 20 wythnos - £180
Disgrifiad o'r Cwrs
Nod y cwrs ydy dysgu hanfodion terminoleg feddygol i ddysgwyr nad oes ganddynt unrhyw wybodaeth flaenorol o'r pwnc fel eu bod deall, yn adnabod ac yn defnyddio'r termau'n gywir ynghyd a deall y corff dynol.
Gall cymhwyster Lefel 2 mewn Terminoleg Feddygol eich helpu i lwyddo mewn swydd weinyddol mewn sefydliad Gwasanaeth Iechyd Gwladol o unrhyw faint neu fath, gan gynnwys: Ysgrifennydd, Derbynnydd, Gweinyddwr, Cynorthwyydd Personol, Clerc Cofnodion Meddygol a Chlerc Ward.
Dyddiadau Cwrs
Abergele
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
07/02/2023 | 18:00 | Dydd Mawrth | 3.00 | 20 | £180 | 0 / 12 | EXG142697C |
Abergele
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
09/02/2023 | 09:30 | Dydd Iau | 3.00 | 20 | £180 | 0 / 12 | EXG142697H |
Gofynion mynediad
Ystyrir defnydd da o iaith (Saesneg) yn fanteisiol gyda chanolbwyntio arbennig ar gywirdeb wrth sillafu.
Cyflwyniad
Sesiynau addysgu gan ddefnyddio trafodaethau, ymarferion ysgrifenedig/gweithgareddau, taflenni gwaith, asesiadau, cyfarwyddiadau uniongyrchol, sesiynau darlithio, fideos a dulliau dysgu eraill
Bydd gwaith cartref a dysgu annibynnol yn rhan annatod o'r cwrs.
Asesiad
Bydd yr holl waith yn cael ei asesu drwy gyfuniad o’r dulliau canlynol; portffolio o dystiolaeth; Asesiadau; Cwestiynau atebion byr.
Dilyniant
Dilyniant:
- Terminoleg Feddygol ar gyfer Gweinyddwyr L2
- Sgiliau Cyfathrebu mewn Amgylchedd Meddygol L2
- Trawsgrifiad clywedol ym maes meddygaeth L2
- Gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel Gweinyddwr Meddygol L2