Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Sgiliau Cyfathrebu Meddygol, Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    3 hours per week for 20 weeks

Cofrestrwch
×

Sgiliau Cyfathrebu Meddygol, Lefel 3

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bwriad y cwrs hwn yw'ch galluogi i feithrin dealltwriaeth o'r sgiliau cyfathrebu sydd eu hangen i weithio mewn tîm gofal iechyd mewn meddygfa, ysbyty, lleoliad gofal cymdeithasol a sefydliadau perthnasol eraill.

Gellir defnyddio'r uned fel llwybr dilyniant o Sgiliau Cyfathrebu mewn Amgylchedd Meddygol, Lefel 2 ac i ddatblygu eich dealltwriaeth a'ch gwybodaeth o sgiliau gweinyddu cyffredinol. Bydd yn eich galluogi i gefnogi gwaith y tîm gofal iechyd drwy gynhyrchu dogfennau a gohebiaethau priodol yn gywir ac i safon broffesiynol. Yn ogystal, bydd yr uned yn rhoi i chi'r sgiliau i gyfathrebu’n effeithiol mewn sefyllfaoedd anodd amrywiol, gan gynnwys wyneb yn wyneb a dros y ffôn.

Gall cymhwyster Lefel 3 mewn Sgiliau Cyfathrebu Meddygol eich helpu i lwyddo i symud ymlaen drwy system band cyflog y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn swydd weinyddol mewn sefydliad o unrhyw fath neu faint yn y GIG, gan gynnwys fel: Ysgrifennydd/Gweinyddwr.

Gofynion mynediad

Ystyrir defnydd da o'r Saesneg yn fanteisiol gyda phwyslais neilltuol ar gywirdeb wrth sillafu.

Cyflwyniad

Sesiynau addysgu gan ddefnyddio trafodaethau, ymarferion/gweithgareddau ymarferol, taflenni gwaith, asesiadau, cyfarwyddiadau uniongyrchol, sesiynau darlithio, fideos a dulliau dysgu eraill.

Bydd gwaith cartref a dysgu annibynnol yn rhan annatod o'r cwrs.

Asesiad

Bydd yr holl waith yn cael ei asesu drwy gyfuniad o’r dulliau canlynol: portffolio o dystiolaeth; asesiadau;⁠ cwestiynau atebion byr.

Dilyniant

Dilyniant:

  • Ystyriaethau Meddygol ar gyfer Gweinyddwyr, Lefel 3
  • Terminoleg Feddygol, Lefel 3
  • ⁠Sgiliau Gweinyddu Meddygol, Lefel 3
  • Trawsgrifio Clywedol a Geiriol ym maes Meddygaeth, Lefel 3

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth