Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ystyriaethau Meddygol i Weinyddwyr, Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    3 hours per week for 30 weeks

Cofrestrwch
×

Ystyriaethau Meddygol i Weinyddwyr, Lefel 3

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bwriad yr uned hon yw rhoi gwybodaeth feddygol arbenigol i chi o weinyddiaeth a dulliau gweithredu mewn amgylchedd gofal iechyd.

Bydd yn eich galluogi i ddeall y dulliau gweithio mewn amgylchedd meddygol - boed hynny mewn gofal sylfaenol, eilaidd neu ofal yn y gymuned.

Bydd yn rhoi dealltwriaeth i chi o ddulliau hybu iechyd a meddygaeth ataliol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i gynnal amgylchedd gweithio diogel ac iach drwy atal heintiau a sut mae egwyddorion moeseg feddygol, safonau ymddygiad a chyfrinachedd yn berthnasol i weinyddu meddygol. Ar ben hynny byddwch yn meithrin dealltwriaeth o waith yr adran patholeg a'r adran delweddu clinigol ac yn cael gwybodaeth sylfaenol am ddosbarthiadau cyffuriau.

Gall cymhwyster Lefel 3 mewn Ystyriaethau Meddygol i Weinyddwyr eich helpu i lwyddo i symud ymlaen drwy system band cyflog y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn swydd weinyddol mewn sefydliad o unrhyw fath neu faint yn y GIG, gan gynnwys fel: Ysgrifennydd/Gweinyddwr.

Gofynion mynediad

Ystyrir defnydd da o'r Saesneg yn fanteisiol gyda phwyslais neilltuol ar gywirdeb wrth sillafu.

Cyflwyniad

Sesiynau addysgu gan ddefnyddio trafodaethau, ymarferion/gweithgareddau ymarferol, taflenni gwaith, asesiadau, cyfarwyddiadau uniongyrchol, sesiynau darlithio, fideos a dulliau dysgu eraill.

Bydd gwaith cartref a dysgu annibynnol yn rhan annatod o'r cwrs.

Asesiad

Bydd yr holl waith yn cael ei asesu drwy gyfuniad o’r dulliau canlynol: portffolio o dystiolaeth; asesiadau;⁠ cwestiynau atebion byr.

Dilyniant

Dilyniant

  • ⁠Sgiliau Gweinyddu Meddygol, Lefel 3
  • Terminoleg Feddygol, Lefel 3
  • Sgiliau Cyfathrebu Meddygol, Lefel 3
  • Trawsgrifio Clywedol a Geiriol ym maes Meddygaeth, Lefel 3

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth