Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Sgiliau Gweinyddu Meddygol, Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    3 hours per week for 20 weeks

Cofrestrwch
×

Sgiliau Gweinyddu Meddygol, Lefel 3

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r uned hon wedi'i chynllunio er mwyn rhoi i chi'r wybodaeth a'r sgiliau hanfodol i fod yn weinyddwr meddygol.

Bydd yn rhoi dealltwriaeth i chi o'r gweithdrefnau gweinyddol a'r sgiliau a'r priodoleddau sydd eu hangen i ddarparu cymorth gweinyddol effeithiol mewn amgylchedd meddygol. Byddwch yn dysgu sut i weithio fel rhan o dîm meddygol ac yn dod i ddeall sut i reoli eich amser a'ch llwyth gwaith eich hun a rheoli gwybodaeth.

Gall cymhwyster Lefel 3 mewn Gweinyddu Meddygol eich helpu i lwyddo i symud ymlaen drwy system band cyflog y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn swydd weinyddol mewn sefydliad o unrhyw fath neu faint yn y GIG, gan gynnwys fel: Ysgrifennydd/Gweinyddwr.

Gofynion mynediad

Ystyrir defnydd da o'r Saesneg yn fanteisiol gyda phwyslais neilltuol ar gywirdeb wrth sillafu.

Cyflwyniad

Sesiynau addysgu gan ddefnyddio trafodaethau, ymarferion/gweithgareddau ymarferol, taflenni gwaith, asesiadau, cyfarwyddiadau uniongyrchol, sesiynau darlithio, fideos a dulliau dysgu eraill.

Bydd gwaith cartref a dysgu annibynnol yn rhan annatod o'r cwrs.

Asesiad

Bydd yr holl waith yn cael ei asesu drwy gyfuniad o’r dulliau canlynol: portffolio o dystiolaeth; asesiadau;⁠ cwestiynau atebion byr.

Dilyniant

Dilyniant:

  • Ystyriaethau Meddygol ar gyfer Gweinyddwyr, Lefel 3
  • Terminoleg Feddygol, Lefel 3
  • Sgiliau Cyfathrebu Meddygol, Lefel 3
  • Trawsgrifio Clywedol a Geiriol ym maes Meddygaeth, Lefel 3

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth