Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    18 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth Lefel 3

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Dyluniwyd y Diploma Lefel 3 ym maes Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth ar gyfer staff sy'n gweithio mewn llyfrgell neu uned wybodaeth.

Mae'r fframwaith Prentisiaeth yn gofyn am gwblhau nifer o gydrannau'n llwyddiannus, gan gynnwys cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, sy'n cael ei asesu'n annibynnol a'i ardystio.

Bydd gan y sawl sy'n cwblhau'r cymhwyster yn llwyddiannus y wybodaeth a'r sgiliau sy'n berthnasol i'w swydd, yn cynnwys y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i weithio’n effeithiol yn y sector Llyfrgelloedd, Archifau, Cofnodion a Gwasanaethau Rheoli Gwybodaeth. Mae’r fframwaith yn addas ar gyfer amrywiaeth o swyddi gan gynnwys:

  • Cynorthwyydd Archif
  • Cynorthwyydd Cofnodion
  • Cynorthwyydd Gwasanaeth i Gwsmeriaid⁠
  • Cynorthwyydd Gwybodaeth
  • Cynorthwyydd Llyfrgell
  • Cynorthwyydd Cymorth Dysgu

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad yn y diwydiant llyfrgelloedd yn ddymunol.
  • Rhaid i bob prentis gael cyflogwr a all fodloni'r meini prawf NVQ.
  • Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs yn y gweithle. Mae cymorth ar-lein ar gael hefyd trwy system e-bortffolio Onefile.

Bydd yn rhaid i chi gwblhau pedair uned orfodol ac amrywiaeth o unedau dewisol (hyd at 27 credyd):

  • Dulliau trefnu gwybodaeth a/neu ddeunydd
  • Cefnogi defnyddwyr i ddefnyddio adnoddau digidol
  • Creu a chynnal amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  • Helpu defnyddwyr i gyrchu gwybodaeth a/neu ddeunydd
  • Hyrwyddo Gwasanaethau Llyfrgell, Archif a Gwybodaeth
  • Darparu gweithgareddau cynefino a chyfarwyddo i ddefnyddwyr
  • Ymgysylltu â'r gymuned ehangach
  • Hanes Teulu
  • Gwybodaeth am iechyd
  • Astudiaethau Lleol
  • Paleograffeg
  • Datblygiad Darllenwyr
  • Dyrannu a gwirio gwaith mewn tîm
  • Meithrin perthynas weithio gynhyrchiol gyda chydweithwyr
  • Rhoi gwybodaeth a/neu ddeunydd
  • Arwain tîm
  • Lleoli a rhoi gwybodaeth a/neu ddeunydd yn ei ôl
  • Rheoli eich adnoddau a'ch datblygiad proffesiynol eich hun
  • Gwarchod, diogelu a chopïo gwybodaeth a/neu ddeunydd
  • Deall amgylchedd Gwasanaethau Llyfrgell, Archif a Gwybodaeth
  • Deall trefn Gwasanaethau Llyfrgell, Archif a Gwybodaeth

Mae modd trosglwyddo 21 o gredydau o dystysgrif Lefel 2 a'u defnyddio tuag at y cymhwyster hwn.

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwi yn y gwaith
  • Tasgau a phrofion seiliedig ar theori

Dilyniant

Ar ôl i chi gwblhau'r cwrs gallech fynd ymlaen i astudio:

  • Prentisiaeth Lefel 5 ym maes Treftadaeth Ddiwylliannol
  • Gradd Sylfaen (FdA) Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth

Dwyieithog:

Darpariaeth dwy-ieithog ar gael

Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth

Myfyriwr yn darllen yn y llyfrgell