ILM Tystysgrif Lefel 7 mewn Rheoli ac Arwain Strategol
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Ar-lein, Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
12 teaching days spread over a period of 6 months
ILM Tystysgrif Lefel 7 mewn Rheoli ac Arwain Strategol
Oedolion a Rhan-amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cymhwyster wedi'i gynllunio ar gyfer uwch arweinwyr strategol a rheolwyr sy'n ceisio hogi eu gallu arweinyddiaeth strategol, gan eu galluogi i gyflawni canlyniadau llwyddiannus i'w sefydliad.
Fel rhan o'r cwrs, byddwch yn dewis mater cymhleth penodol sy'n gysylltiedig â'ch rôl yn eich sefydliad. Byddwch yn ymchwilio i'r mater, yn gwerthuso tystiolaeth, ac yn nodi ateb i ddatblygu eich sefydliad.
Gallai hynny fod yn arwain pobl drwy newid sefydliadol, yn ffyrdd newydd o weithio, neu yn heriau eraill yn yr amgylchedd ehangach.
Bydd gennych diwtor personol yn gefn i chi.
O'ch safbwynt chi, manteision dilyn y cwrs hwn yw
- Dysgu amrywiaeth o sgiliau rheoli ac arwain allweddol ar lefel strategol
- l Defnyddio sgiliau rheoli newydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn eich swydd
- Cymell ac ennyn diddordeb timau, a rheoli cysylltiadau'n hyderus
- Datblygu'ch sgiliau arwain strategol gan ddefnyddio'ch gwybodaeth, eich gwerthoedd a'ch cymhellion eich hun.
- Cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant i uwch arweinwyr.
O safbwynt eich cyflogwr, manteision dilyn y cwrs hwn yw:
· Rheolwyr strategol effeithiol a hyderus
· Cysylltiadau a chyfathrebu gwell mewn timau
· Gweithio yn well mewn tîm a gwell arweinyddiaeth
· Perfformiad gwell mewn maes o'r sefydliad
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond bydd y rhai a fydd yn dilyn y rhaglen yn:
- Gweithio fel uwch arweinydd o fewn y sefydliad
- Meddu ar Sgiliau Sylfaenol, Llythrennedd, Rhifedd, a sgiliau TG digonol er mwyn gallu elwa i'r eithaf o'r rhaglen
- Cael cefnogaeth eu cyflogwyr, gyda neu heb nawdd
Mae pob lle yn amodol ar gyfweliad boddhaol / presenoldeb mewn sesiwn ymwybyddiaeth ar-lein.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs mewn 12 sesiwn addysgu dros gyfnod o tua 6 mis. Cynhelir y sesiwn gyntaf a'r sesiwn olaf ar ein safle ym Mharc Busnes Llanelwy gyda'r sesiynau sy'n weddill yn cael eu cynnal ar-lein dros Zoom.
Mae'r cwrs yn cael ei arwain gan diwtor drwy gyfuniad o sesiynau wedi’u hamserlennu sy’n cynnwys y canlynol:
- l Dosbarthiadau Ar-lein ac Wyneb yn Wyneb
- Setiau dysgu gweithredol (grŵp ac unigol)
- Trafodaethau proffesiynol
- Astudiaethau achos
- Cyflwyniadau
- l Hunanasesu
- Astudio personol dan gyfarwyddyd
- Sesiynau tiwtoria personol un i un
Bydd gennych hefyd fynediad at amgylchedd dysgu rhithwir (Moodle) lle y ceir yr holl adnoddau dysgu a fydd yn rhoi cefnogaeth lawn i chi drwy gydol eich astudiaethau.
Dylid nodi fod gliniadur/cyfrifiadur, meicroffon, camera a mynediad i'r rhyngrwyd yn ofynnol ar gyfer y rhaglen hon.
Asesiad
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Aseiniadau yn seiliedig ar waith
- Portffolio o dystiolaeth a chanfyddiadau
- Adolygiadau adfyfyriol
- Cyflwyniad terfynol yn amlinellu Effaith eich gwaith
Dilyniant
Byddwch yn datblygu eich arferion proffesiynol fel uwch arweinydd.
Ar ddiwedd y cwrs, bydd eich tiwtor yn trafod y camau priodol nesaf gyda chi. Gallai hyn gynnwys cyrsiau proffesiynol pellach, neu un o'r cyrsiau byr sydd ar gael yn ein lleoliad yn Llanelwy.
Dilynwch y ddolen am ragor o wybodaeth am gyrsiau byr
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser, Hyfforddiant rhan-amser
Lefel:
7
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli
Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :
- Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
Dwyieithog:
Oes.