Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dyfarniad Lefel 1 mewn Weldio ARC

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:
    • 10 wythnos (5.30 – 8.30pm, bob nos Fawrth)

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cymhwyster Lefel 1 hwn yn addas i'r rhai sydd am weithio yn y diwydiant yn ogystal â'r rhai sydd am gael cymhwyster weldio er mwyn datblygu eu sgiliau personol. Cynnwys y cwrs? Caiff dysgwyr ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen i weithio, a/neu i symud ymlaen, yn y sector peirianneg.

Gofynion mynediad

Cyfarpar Diogelu Personol – esgidiau diogelwch, oferôl a gwydrau diogelwch (darperir Cyfarpar Diogelu Personol ar gyfer weldio).

Cyflwyniad

Hyfforddiant ymarferol yn bennaf gyda chyflwyniad yn yr ystafell ddosbarth i brosesau weldio Mig, yr offer a ddefnyddir ac ystyriaethau Iechyd a Diogelwch.

Asesiad

  • 5 aseiniad ymarferol
  • Prawf llafar

Dilyniant

Mae'r cymhwyster yn darparu'r wybodaeth a/neu'r sgiliau ymarferol sy'n berthnasol i'r Dystysgrif NVQ Lefel 1 mewn Gwneud Gwaith Peirianneg. Ar ôl cwblhau'r cymwysterau hyn gall dysgwyr fynd ymlaen i waith cyflogedig neu'r cymwysterau City and Guilds a ganlyn: Dyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau Weldio (3268-02)

  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Technegau Torri Thermol (3268-22)
  • Dyfarniad Lefel 2 mewn Ffabrigo Metel (3268-23)
  • Tystysgrif Lefel 2 mewn Sgiliau Weldio, Ffabrigo a Thorri (3268-25)
  • Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg (2850)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: 1

Maes rhaglen:

  • Peirianneg
  • Cyfrif Dysgu Personol

Dwyieithog:

n/a

Peirianneg

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith