ISEP – Tystysgrif Sylfaen mewn Rheoli'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Dysgu o Bell, Canolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) - Llangefni
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
5 diwrnod (40 awr) o ddysgu.
ISEP – Tystysgrif Sylfaen mewn Rheoli'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r Dystysgrif Sylfaen mewn Rheoli'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn addas i unigolion sy'n newydd i'r maes amgylchedd a chynaliadwyedd, neu'r rhai sy'n ystyried newid gyrfa ac ymuno â'r maes cynaliadwyedd. Mae'n darparu dealltwriaeth sylfaenol o egwyddorion yn ymwneud â'r amgylchedd, cynaliadwyedd a llywodraethu, gan roi i'r dysgwyr y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gychwyn eu taith broffesiynol yn y meysydd hyn. Ar ôl cwblhau'r cwrs gall dysgwyr wneud cais i fod yn Aelod Cyswllt o ISEP a defnyddio’r ôl-ddodiad proffesiynol AISEP.
Bydd y sgiliau craidd a enillir gan y dysgwyr yn cynnwys: dealltwriaeth o dueddiadau byd-eang ym maes yr amgylchedd/cynaliadwyedd; egwyddorion llywodraethu a busnes; y ddeddfwriaeth berthnasol; adnoddau a thechnegau ar gyfer cynaliadwyedd; ymgysylltiad rhanddeiliaid; cyfathrebu; arloesi; adnabod risgiau a chyfleoedd; casglu a dadansoddi data; cynllunio datrysiadau cynaliadwy; a chefnogi newid/trawsnewidiad.
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.
Cyflwyniad
5 diwrnod (40 awr) o ddysgu.
Dosbarthiadau ar-lein o bell (dan arweiniad Tiwtor) neu or Dysgu yn y dosbarth
Asesiad
Ar ddiwedd y cwrs 5 diwrnod, bydd y dysgwyr yn sefyll awr o arholiad llyfr agored, amlddewis ar-lein.
Wedi iddynt lwyddo, bydd y dysgwyr yn cael manylion ynghylch sut i ymuno ag ISEP fel Aelod Cyswllt.
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, gall dysgwyr wneud cais am Aelodaeth Gyswllt o ISEP, gan gael aelodaeth ar y radd honno a'r hawl i ddefnyddio'r ôl-ddodiad proffesiynol AISEP.
I'r rhai sydd â chefndir academaidd (e.e. gradd ym maes yr amgylchedd/cynaliadwyedd), mae yna hefyd lefel Aelodaeth i Raddedigion a ystyrir yn gyfwerth ag Aelodaeth Gyswllt yn y cyd-destun hwn.
Wedi iddynt lwyddo, bydd y dysgwyr yn cael manylion ynghylch sut i ymuno ag ISEP fel Aelod Cyswllt.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Iechyd a Diogelwch
Iechyd a Diogelwch
