ISEP – Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer y Gweithlu
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu o Bell
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 diwrnod
ISEP – Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer y GweithluCyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer y Gweithlu yn gwrs undydd rhagarweiniol sy'n rhoi cyflwyniad ymarferol i gynaliadwyedd amgylcheddol i bob aelod o staff.
Mae wedi'i fwriadu ar gyfer pobl nad ydynt yn arbenigwyr ar yr amgylchedd, yn enwedig y rhai sy'n gweithio ar lefel weithredol, er mwyn datblygu eu hymwybyddiaeth, eu dealltwriaeth, a'u cymhelliant fel bod cynaliadwyedd yn cael ei ymwreiddio yn eu sefydliad.
Mae'r dystysgrif yn gymhwyster cydnabyddedig sy'n dangos ymwybyddiaeth amgylcheddol sylfaenol, ac a fydd yn helpu perfformiad, cydymffurfiaeth a datblygiad gyrfa staff.
Mae'r deilliannau dysgu'n cynnwys:
• y prif risgiau a chyfleoedd amgylcheddol ac economaidd;
• y gofynion cydymffurfio a'r rhesymau busnes sy'n gyrru newid;
• y dylanwadau posibl ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd;
• ffyrdd o wella perfformiad amgylcheddol.
Dyddiadau Cwrs
CIST-Llangefni
| Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| 28/11/2025 | Dydd Gwener | 0.00 | 0 | £100 | 0 / 10 | D0025467 |
Gofynion mynediad
Nid oes angen unrhyw wybodaeth na phrofiad blaenorol o reolaeth ym maes cynaliadwyedd a'r amgylchedd.
Addas i staff ar bob lefel ym mhob sector, yn enwedig y rhai mewn swyddi gweithredol.
Cyflwyniad
Dosbarthiadau ar-lein o bell (dan arweiniad Tiwtor)
Fel arfer mae'r cwrs yn para 7 awr (un diwrnod).
Asesiad
Asesir drwy arholiad/prawf amlddewis ar-lein ar ddiwedd y cwrs.
I gael tystysgrif mae angen i ddysgwyr lwyddo yn y prawf (fel arfer gyda marc o 70% neu uwch).
Dilyniant
Ar ôl cwblhau'r cwrs, efallai y bydd dysgwyr am fynd ymlaen i wneud cymwysterau uwch ym maes cynaliadwyedd/yr amgylchedd. Er enghraifft: Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol i Reolwyrs a/neu'r Dystysgrif Sylfaen mewn Rheoli'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
Mae'r dystysgrif yn gymhwyster cydnabyddedig sy'n dangos ymwybyddiaeth amgylcheddol sylfaenol, ac a fydd yn helpu perfformiad, cydymffurfiaeth a datblygiad gyrfa staff.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Cyfrif Dysgu Personol
- Iechyd a Diogelwch
Iechyd a Diogelwch