Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyflwyniad i Awtistiaeth

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod (7 awr)

Gwnewch gais
×

Cyflwyniad i Awtistiaeth

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn, sy'n para diwrnod llawn, yn fodd i chi ddod i ddeall y Sbectrwm Awtistaidd yn ei holl amrywiaeth. Ar y cwrs, edrychir ar strategaethau a all helpu cyfranogwyr i ddeall dulliau priodol o gyfathrebu a chefnogi rhai sy'n dioddef o Awtistiaeth.

Cewch feithrin ymwybyddiaeth well o'r nodweddion ymddygiad a welir yn aml mewn unigolion sy'n dioddef o anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd, yn ogystal â dod i ddeall y strategaethau sydd ar gael i gynorthwyo gyda'r rhain.

Ffioedd: £45

Gofynion mynediad

  • Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • gweithdai
  • trafodaethau
  • gwaith grŵp

Asesiad

Bydd yr asesu'n cynnwys gwaith ymarferol, gwaith grŵp a sesiynau holi ac ateb, yn ogystal â llyfrau gwaith unigol.

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, cewch dystysgrif o bresenoldeb.

Dilyniant

Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai yn y sector Iechyd a Gofal, neu mewn sectorau perthnasol eraill.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dwyieithog:

n/a

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Myfyrwyr mewn ystafell ddosbarth