Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diploma Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    8 diwrnod

Gwnewch gais
×

Diploma Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Proffesiynol

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Y manteision i unigolion

Gallu asesu eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch ymddygiad eich hun wrth hyfforddi a mentora

- Gwybod sut i reoli'r broses hyfforddi neu fentora mewn cyd-destun sefydliadol

- Cryfhauand'ch dealltwriaeth o sut y gall y cyd-destun sefydliadol effeithio ar eich hyfforddi neuand'ch mentora

- Cynllunio, darparu ac adolygu eich hyfforddi a'ch mentora

- Cynllunio datblygiad pellach eich hyfforddi neu'ch mentora

Y manteision i gyflogwyr

- Sicrhau bod gan yr unigolion a ddatblygwch yn hyfforddwyr a mentoriaid effeithiol y sgiliau, y wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd arnynt eu hangen

- Meithrin diwylliant o hyfforddi a mentora er mwyn i unigolion allu gwella eu perfformiad a'u cynhyrchiant.

Gofynion mynediad

Mae'r Diploma mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol yn gymhwyster i reolwyr aand#39;r sawl sydd â chyfrifoldeb sylweddol am hyfforddi a mentora effeithiol yn eu gwaith o ddydd i ddydd mewn cyd-destun sefydliadol. Mae hefyd yn ddelfrydol i unigolion sydd am symud i swydd ddatblygu, neu ddechrau gyrfa fel hyfforddwr neu fentor llawrydd.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Gwaith grŵp
  • Ymarferion chwarae rôl
  • Cwisiau
  • Cyflwyniadau

⁠Cyflwynir y sesiynau yn Saesneg, a Saesneg yw iaith mwyafrif adnoddau'r sesiynau, er bod rhai adnoddau ar gael yn Gymraeg. Gellir cwblhau/cyflwynoa'r aseiniad a'r portffolio o dystiolaeth yn Gymraeg.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn: - Aseiniad seiliedig ar waith - Portffolioa'n cynnwys dyddiadur hyfforddi a dyddiadur adfyfyriol

Dilyniant

Bydd y cymhwyster hwn yn cynnig cyfleoedd i symud ymlaen i gael cymwysterau eraill fel:

Dyfarniad, Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 5 ILM mewn Arwain a Rheoli

Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 7 ILM i Hyfforddwyr a Mentoriaid

Lefel Uwch Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 7 ILM i Oruchwylwyr Hyfforddiant

Dyfarniad, Tystysgrif neu Ddiploma Lefel 7 ILM mewn Arwain a Rheoli

Gwybodaeth campws Abergele

Yn ystod y cwrs, byddwch yn astudio tri modiwl ILM:

Deall sgiliau, egwyddorion ac arferion hyfforddi a mentora effeithiol mewn cyd-destun sefydliadol - Pwrpas yr uned hon yw galluogi dysgwyr i ddeall beth yw swyddogaeth a chyfraniad hyfforddi a mentora i unigolion a sefydliadau a dadlau o blaid defnyddio hyfforddi a mentora yn eu sefydliadau.

Ymgymryd â chyfnod estynedig o hyfforddi neu fentora effeithiol mewn cyd-destun sefydliadol – Pwrpas yr uned hon yw galluogi dysgwyr i ddangos eu gallu i

ymgymryd â rhaglen hyfforddi a mentora yn y gweithle.

Adolygu'ch gallu eich hun fel hyfforddwr neu fentor mewn cyd-destun sefydliadol - Pwrpas yr uned hon yw galluogi rheolwyr i adolygu eu gallu i berfformio'n effeithiol fel hyfforddwyr neu fentoriaid.

ilm@gllm.ac.uk

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 5

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth