Coginio Cartref - Pobi i Ddechreuwyr
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Llangefni, Blaenau Ffestiniog, Canolfan Felin Fach - Pwllheli, Amlwch/Bodorgan, Porthi Dre - Caernarfon
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
5 awr yr wythnos am 10/14 wythnos
Coginio Cartref - Pobi i Ddechreuwyr
Oedolion a rhan-amser
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn ar agor i bawb.
Byddwch yn dysgu sut i:
- Ddilyn gweithdrefnau hylendid sylfaenol ar gyfer cynhyrchu nwyddau wedi'u pobi
- Deall sut i leihau'r risg o groes halogiad
- Paratoi, pobi, a gorffen amrywiaeth o gynnyrch wedi'u pobi
- Cynhyrchu nwyddau wedi'u pobi gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau fel:
- Rhwbio i mewn
- Dull toddi
- Chwipio
- Hufennu
- Mae enghreifftiau o'r mathau o nwyddau wedi'u pobi yn cynnwys:
- Cacen gyda Diferion Lemwn
- Bara sinsir
- Sbwng clasurol
- Sgons
- Rholyn Swisaidd
- Bisgedi cyffredin
Efallai y bydd cyfle i ddysgwyr baratoi a gweini te prynhawn i aelodau ein clwb cinio hefyd.
Gofynion mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Os ydych chi'n cofrestru ar y cwrs canolradd neu'n paratoi pryd o fwyd dau gwrs, disgwylir y bydd dysgwyr naill ai wedi cwblhau un o'n cyrsiau sylfaenol neu eu bod nhw eisoes yn eithaf cymwys yn y gegin.
Cyflwyniad
- Trafodaeth
- Sesiynau ymarferol
- Arsylwadau
- Arddangosiadau
- Llyfr Gwaith
- Adolygiadau
Asesiad
Dim.
Dilyniant
Cyrsiau coginio eraill.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Oedolion a rhan-amser
Lefel:
0
Maes rhaglen:
- Sgiliau Bywyd