Rhoi Sglein ar eich Sgiliau
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor (Campws Newydd), Llangefni, Dolgellau, Tŷ Cyfle - Caernarfon, Tŷ Cyfle - Caergybi, Tŷ Cyfle - Bangor
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
5 wythnos - 3 diwrnod yr wythnos
Rhoi Sglein ar eich SgiliauDysgwyr sy'n Oedolion
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn yn addas i'r sawl sydd am ddiweddaru eu sgiliau a magu hyder, pa un ai a ydynt allan o waith, wedi bod adref yn magu teulu neu'n teimlo eu bod yn barod i newid gyrfa. Mae'n cynnwys sesiynau i ddiweddaru eich sgiliau cyfrifiadurol; i wella eich sgiliau llythrennedd, rhifedd a gweithio mewn tîm; cynyddu eich hyder a'ch lles, a gwella eich sgiliau mewn cyfweliad.
Mae'r cwrs hwn yn hyblyg iawn o ran ei gynnwys ac mae'r tiwtoriaid yn ymateb i anghenion myfyrwyr unigol yn y grŵp wrth benderfynu pa feysydd fydd yn cael blaenoriaeth yn y sesiynau.
Gofynion mynediad
Nid oes unrhyw anghenion mynediad ar gyfer y cwrs.
Cyflwyniad
Bydd y gwersi i gyd yn y dosbarth gan ddefnyddio gwahanol ddulliau o addysgu.
Asesiad
Asesiad o waith cwrs - hynny yw portffolio a chwblhau Cynllun Datblygu Personol.
Dilyniant
- Cyflwyniad i Fyd Gwaith/Gofal Plant
- Sgiliau Hanfodol Cymru: Llythrennedd / Rhifedd
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Dysgwyr sy'n Oedolion, Potensial (Dysgu Gydol Oes)
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Sgiliau ar gyfer gwaith
Dwyieithog:
n/aSgiliau ar gyfer gwaith
