Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Cadwraeth Amgylcheddol Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Cadwraeth Amgylcheddol Lefel 2

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae cadwraeth amgylcheddol yn ymdrin â sawl maes, gan gynnwys diogelu tirweddau, cynefinoedd a rhywogaethau, rheoli mynediad y cyhoedd a gweithgareddau hamdden yng nghefn gwlad, yn ogystal â dehongli er mwyn hybu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a mwynhad o gefn gwlad. Mae hefyd yn addas ar gyfer prosiectau cymunedol lleol fel ailgylchu, banciau bwyd ac ati.

Mae'r sector yn cynnwys ardaloedd gwledig a threfol, afonydd, arfordiroedd a dyfrffyrdd ledled Cymru, gyda llawer ohonynt wedi'u dynodi'n ardaloedd gwarchodaeth arbennig.

Mae fframwaith y brentisiaeth hon yn addas i amrywiaeth eang os swyddi, gan gynnwys

  • Gweithwyr Ystâd
  • Garddwyr
  • Gosodwyr Terfynau
  • Wardeiniaid Cefn Gwlad
  • Swyddogion Ailgylchu
  • Coedwigwyr
  • Swyddogion Prosiectau Cymunedol
  • Ciperiaid ac ati

Gofynion mynediad

  • O leiaf tair gradd TGAU.
  • Gellir derbyn cymwysterau eraill os yw'n eglur eu bod yn gyfwerth.
  • Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr a all fodloni meini prawf yr NVQ.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Mae'r hyfforddiant technegol yn cael ei ddarparu yn y coleg un diwrnod yr wythnos ac mae'n cynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

N/A

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Coedwigaeth a Rheoli Cefn Gwlad

Coedwigaeth a Rheoli Cefn Gwlad

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Coedwigaeth a Rheoli Cefn Gwlad

Myfyriwr yn torri coeden gyda chainsaw