Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coluro ar gyfer Ffasiwn a Ffotograffau (Tystysgrif Lefel 3)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Ionawr - Gorffennaf (2 tymor)

Cofrestrwch
×

Coluro ar gyfer Ffasiwn a Ffotograffau (Tystysgrif Lefel 3)

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys yr unedau canlynol:

  • Coluro ar gyfer Ffasiwn a Ffotograffau.
  • Hyrwyddo a gwerthu nwyddau a gwasanaethau.
  • Gofalu am gleientiaid a chyfathrebu.
  • Iechyd a diogelwch

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnig dilyniant i'r sawl sydd wedi cwblhau cwrs Lefel 2 ym maes coluro, neu sydd â phrofiad o goluro ar yr un lefel.

Mae’n cynnwys: colur cyfnod, colur ar gyfer byd ffasiwn a sioeau ffasiwn, colur priodferch, colur masnachol a cholur ffantasi, gyda phwyslais ar ymchwilio, cynllunio a dylunio.

Gofynion mynediad

2 TGAU gradd C neu uwch

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfrwng cyfuniad o

  • weithdai ymarferol,
  • darlithoedd,
  • arddangosfeydd,
  • astudio a meithrin sgiliau gartref,
  • a sesiynau tiwtorial.

Asesiad

  • Gwaith ysgrifenedig.
  • Aseiniadau.
  • Asesiadau ymarferol a arsylwir.
  • Arholiad ar-lein.

Dilyniant

Astudio ymhellach yn y sector gwallt a harddwch:

  • Diploma NVQ Lefel 3 mewn Tylino a Therapi Harddwch.
  • Diploma NVQ Lefel 3 mewn Coluro a Therapi Harddwch.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch