Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    20 wythnos, 3 awr yr wythnos

Gwnewch gais
×

Ffotograffiaeth Ddigidol Lefel 1

Potensial (Dysgu Gydol Oes)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'n addas i berchnogion camerâu digidol sydd â rhywfaint o brofiad blaenorol ym maes ffotograffiaeth ynghyd â rhywfaint o wybodaeth am ddefnyddio cyfrifiaduron.

Uned 1: Defnyddio camera i gipio delweddau creadigol

Yn yr uned hon, bydd yr ymgeiswyr yn dysgu rhagor am ddefnyddio camera digidol a chyfarpar ategol, ac yn dod i ddeall rheolyddion a gosodiadau er mwyn cynhyrchu delweddau clir sydd wedi'u dinoethi'n gywir.

Bydd y dysgwyr yn meithrin sgiliau ffotograffig drwy gynhyrchu amrediad o ddelweddau arbrofol ar bwnc penodol. Byddant yn adalw ac yn prosesu'r delweddau hyn gan adolygu eu gwerth esthetig a thechnegol. Byddant hefyd yn dysgu am hanfodion arferion gweithio'n ddiogel ac am y ffactorau cyfreithiol a moesegol sy'n gysylltiedig â ffotograffiaeth.

Uned 2: Trin delweddau digidol

Bydd y dysgwyr yn gallu enwi'r caledwedd a'r meddalwedd y mae gofyn eu cael i drin delweddau a byddant yn deall y technegau gofynnol. Byddant yn paratoi ac yn prosesu'r delweddau y gwnaethant eu trin, gan ystyried eu hansawdd, a byddant yn gallu gwerthuso eu delweddau terfynol.

Gofynion mynediad

Gorau oll os byddwch wedi cwblhau'r cwrs Cyflwyniad i Ffotograffiaeth Ddigidol, neu os oes gennych brofiad cyfatebol ym maes ffotograffiaeth.

Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Yn y gwersi, defnyddir amrediad o ddulliau dysgu ac addysgu, gan gynnwys:

  • sesiynau tiwtora
  • arddangosiadau
  • gwaith grŵp
  • gwaith unigol
  • gweithdai ymarferol
  • ymchwil

Cynhelir y gwersi mewn uned gyfrifiadurol lawn cyfarpar.

Asesiad

Cewch eich asesu ar sail portffolio sy'n cynnwys gwaith prosiect, gwaith ysgrifenedig, gwaith ymarferol a dulliau eraill, ac a werthusir gan eich tiwtor.

Dilyniant

Ffotograffiaeth Ddigidol Lefel 2

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Potensial (Dysgu Gydol Oes)

Lefel: 1

Maes rhaglen:

  • Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth
  • Cyrsiau Hamdden

Dwyieithog:

n/a

Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth

Myfyriwr yn gwneud llun

Cyrsiau Hamdden