Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth Uwch - Treftadaeth Ddiwylliannol Lefel 5

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    12 mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth Uwch - Treftadaeth Ddiwylliannol Lefel 5

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r brentisiaeth lefel uwch (lefel 5) hon wedi'i chynllunio gyda chymorth cyflogwyr er mwyn creu llwybr mynediad a dilyniant anraddedig i reoli ym maes treftadaeth ddiwylliannol. Nod y brentisiaeth yw cynnig dewis amgen i'r llwybrau Addysg Uwch traddodiadol i mewn i'r sector.

Mae’r sector treftadaeth ddiwylliannol yn cynnwys llawer o feysydd gwaith cydgysylltiedig a chyfunol, gan dorri ar draws meysydd fel Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd, Archifau, y diwydiannau creadigol a gwasanaethau twristiaeth yn y Deyrnas Unedig. Mae Treftadaeth Ddiwylliannol a’r amgylchedd hanesyddol yn rhan annatod o gyfansoddiad economi Cymru.

Gofynion mynediad

  • Unrhyw gymhwyster Lefel 3 a'r gallu i weithio ar lefel Addysg Uwch.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cymhwyster yn y gweithle gydag asesydd dros gyfnod o 18 mis. Caiff ei asesu drwy e-bortffolio.

Mae'r unedau a gynigir yn cynnwys:

Unedau gorfodol (rhaid cwblhau pob un)

  • Gofalu am gasgliadau
  • Mynediad i a dealltwriaeth am gasgliadau mewn sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol
  • Treftadaeth Ddiwylliannol – Rheoli Casgliadau
  • Bodloni anghenion defnyddwyr sefydliadau diwylliannol

Unedau dewisol (rhaid cwblhau un)

  • Cynllunio busnes ar gyfer treftadaeth ddiwylliannol
  • Rheoli safleoedd a diogelwch mewn lleoliadau treftadaeth ddiwylliannol
  • Sgiliau arwain a rheoli'r gweithlu mewn sefydliad treftadaeth ddiwylliannol
  • Cynhyrchu incwm mewn sefydliad treftadaeth ddiwylliannol

Mae’r fframwaith prentisiaeth hefyd yn cynnwys sgiliau hanfodol mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu ar gyfer y rhai nad oes ganddynt y cymhwyster dirprwy perthnasol. Bydd y Sgiliau Hanfodol yn cael eu cyflwyno ar-lein a bydd angen dod i'r coleg i sefyll y profion. Mae'r hyd yn amrywio yn ôl yr unigolyn.

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

  • Gradd Sylfaen/Gradd Anrhydedd mewn disgyblaeth berthnasol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 4+5

Maes rhaglen:

  • Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth

Dwyieithog:

Darpariaeth dwy-ieithog ar gael

Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth

Myfyriwr yn darllen yn y llyfrgell