Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diogelwch Nwy yn y cartref (CCN 1)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos, CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Hyfforddiant- 1 neu 2 diwrnod

    Asesiad- hyd at 3 diwrnod

Cofrestrwch
×

Diogelwch Nwy yn y cartref (CCN 1)

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae cynllun asesu ACS yn cwmpasu ystod o sectorau o fewn y diwydiant nwy is: domestig, masnachol, nwy petrolewm hylifedig (LPG) a darparwyr gwasanaethau brys (ESP).

Byddai’r ymgeisydd fel arfer yn cynnal asesiad ‘craidd’ sy'n ddibynnol ar y maes gwaith a nodir, e.e. ⁠CCN1 neu COCN 1 ac yna un neu fwy o asesiadau offer neu arbenigol e.e. CENWAT neu CIGA1. Mae asesiadau cyfnewid hefyd ar gael.⁠

Mae tystysgrifau ACS fel arfer yn ddilys am 5 mlynedd. Bydd ymgeiswyr yn gymwys i gwblhau ailasesiad pan ddaw'r dystysgrif i ben. Gellir cwblhau'r ailasesiad hyd at 6 mis cyn dyddiad y daw'r cymhwyster cychwynnol i ben (arddull MOT). Rhaid cyflwyno tystysgrifau blaenorol i'r ganolfan asesu fel tystiolaeth o feddu ar y cymhwyster cychwynnol.

Gofynion mynediad

O ran yr asesiadau ACS cychwynnol, rhaid i ymgeiswyr fodloni'r gofynion mynediad a ddiffinnir gan Reolau'r Cynllun Asesu (Categori 1/Categori 2 (ymgeisydd newydd â sgiliau trosglwyddadwy)/ ymgeisydd newydd heb unrhyw sgiliau na phrofiad trosglwyddadwy).

Rhaid bod ymgeiswyr sy'n dymuno cwblhau ailasesiad eisoes fod wedi cwblhau'r elfen asesu - os yw'r elfen hon wedi dod i ben mwy na 12 mis cyn y dyddiad asesu, bydd rhaid cwblhau’r asesiad cychwynnol eto.

Nid oes angen i unrhyw ymgeiswyr sy'n bodloni'r rhagofynion yn llawn gwblhau hyfforddiant gloywi asesiadau ACS. Fodd bynnag, efallai y bydd ymgeiswyr yn dymuno cwblhau hyfforddiant gloywi i'w paratoi'n well ar gyfer y broses asesu ACS.

Cyflwyniad

NID yw hyfforddiant yn rhagofyniad ar gyfer asesiad, er bydd rhan fwyaf o ymgeiswyr yn dewis dilyn rhyw fath o hyfforddiant cyn cwblhau’r asesiad.

Mae Canolfannau Asesu fel arfer yn rhoi'r cyfle i ymgeiswyr gwblhau hyfforddiant cyn yr asesiad.


Asesiad

Mae asesiadau fel arfer yn cynnwys cyfuniad o arholiadau ymarferol a theori. Bydd NICEIC yn uwchlwytho canlyniadau'r asesiad i'r Gofrestr Gas Safe ar ôl i’r ymgeiswyr gwblhau'r asesiad yn llwyddiannus.

Dilyniant

  • Diogelwch Craidd - Nwy LPG
  • Cymwysterau nwy masnachol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dwyieithog:

n/a

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'