Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gweithrediadau Canolfan Gyswllt - Tystysgrif NVQ Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    12-18 mis

Cofrestrwch
×

Gweithrediadau Canolfan Gyswllt - Tystysgrif NVQ Lefel 3

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Os ydych yn gweithio mewn Canolfan Gyswllt ac am ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, dyma'r cwrs i chi.

Mae'r cymwysterau hyn wedi'u cynllunio i ddarparu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau y bydd arnoch eu hangen i sicrhau cysylltiadau effeithiol â chwsmeriaid Canolfan Gyswllt. Mae'r cymhwyster Lefel 3 yn addas ar gyfer rheolwyr, goruchwylwyr ac arweinwyr tîm.

Gofynion mynediad

Yn cael eich cyflogi mewn Canolfan Gyswllt

Cyflwyniad

Caiff cynllun dysgu unigol ei lunio mewn ymgynghoriad â chi a'ch rheolwr a bydd asesydd yn ymweld â chi'n rheolaidd yn y gweithle. Byddwch yn creu portffolio o dystiolaeth i ddangos sut yr ydych yn bodloni'r Safonau Cenedlaethol yn eich gwaith bob dydd ac i ddangos eich bod yn ymwybodol o ddeddfwriaeth berthnasol.

Asesiad

Byddwch yn cyflwyno i'ch asesydd dystiolaeth o sefyllfaoedd gwaith y gwnaethoch ddelio â hwy. Gall y dystiolaeth gynnwys :

  • Astudiaethau Achos
  • Cwestiynau ac Atebion
  • Trafodaethau
  • Negeseuon e-bost neu lythyrau i ategu'ch tystiolaeth ysgrifenedig
  • Thystiolaeth tystion gan eich cydweithwyr neu'ch rheolwr atebol

Bydd eich llyfrau gwaith, ynghyd â'r gwaith ymarferol a wnewch tuag at eich NVQ, yn cael eu marcio gan asesydd yn y gweithle a'u safoni gan y dilysydd mewnol.

Bydd yr elfen Sgiliau Hanfodol yn seiliedig ar arsylwadau a gwaith portffolio.

Dilyniant

Mae cyfleoedd gwych i fynd ymlaen i astudio am gymhwyster Addysg Uwch megis Gradd Sylfaen ym maes Busnes.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli
  • Manwerthu

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth