Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfrifiadura a Sgiliau Digidol - Dechreuwyr

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Abergele, Bangor, Llangefni, HWB Dinbych, Lleoliad cymunedol, Llyfrgell Bae Colwyn, Caernarfon, Caergybi, Llyfrgell Conwy, Cwt y Geids, Llanrwst, Llyfrgell Llandudno, Llyfrgell Prestatyn, Llyfrgell y Rhyl
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Cynhelir y cwrs dros ystod o oriau ac wythnosau.

Gwnewch gais
×

Cyfrifiadura a Sgiliau Digidol - Dechreuwyr

Potensial (Dysgu Gydol Oes)

Coleg Menai, Bangor
Dydd Llun, 11/03/2024

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae ein cyfres o gyrsiau llythrennedd digidol yn addas i'r sawl sydd am ddysgu sut i ddefnyddio technoleg mewn amgylchedd hamddenol ac anffurfiol. Cyflwynir y sesiynau gan diwtoriaid cyfeillgar fydd yn cynllunio eu gwersi i fodloni diddordebau'r myfyrwyr, pa un ai a ydynt yn astudio er mwyn datblygu eu gyrfa neu er pleser yn unig.

  • Byddwch yn dysgu am hanfodion defnyddio cyfrifiadur neu ddyfais. Bydd hyn yn cynnwys sgiliau sylfaenol teipio a defnyddio bysellfwrdd i lunio dogfennau.
  • Byddwch hefyd yn dysgu: sut i gadw'n ddiogel ar-lein, am eich ôl-troed digidol, rhyngweithio ag eraill ar-lein a defnyddio nodweddion diogelwch ar ddyfeisiau.
  • Byddwch yn dysgu sut i reoli eich gwybodaeth ddigidol o ffeiliau a ffotograffau i dudalennau gwe.
  • Byddwch yn creu/defnyddio cyfrif e-bost i gyfathrebu ag eraill ac i gofrestru ar gyfer gwasanaethau ar-lein.
  • Mae croeso i chi ddod â'ch dyfais eich hun i'r sesiynau.

Gall pynciau amrywio ar wahanol gampysau.

Dyddiadau Cwrs

Coleg Menai, Bangor

DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
11/03/202409:00 Dydd Llun3.0012 Am ddim0 / 14D0018575

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Cyflwyniad

  • Dysgu yn y dosbarth
  • Gwaith grŵp

Asesiad

  • Perfformio ac arsylwi
  • Dangos sgiliau ymarferol
  • Portffolios gwaith

Dilyniant

  • Cyfrifiadura a Sgiliau Digidol - Cwrs Gloywi
  • Byddai modd i chi fynd yn eich blaen i astudio nifer o raglenni gyda Grŵp Llandrillo Menai.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Potensial (Dysgu Gydol Oes)

Lefel: 0

Maes rhaglen:

  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau