Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Ar-lein
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    5 diwrnod llawn

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs CompTIA Network+ yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw weithiwr TG proffesiynol sy'n dymuno arbenigo mewn rhwydweithio ac agor llwybr newydd yn eu gyrfa mewn rhwydweithio neu gymorth TG. Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi cydnabyddiaeth a dilysrwydd haeddiannol i'ch sgiliau wrth i chi ddilyn gyrfa yn y diwydiant cyffrous a ffyniannus hwn.

Byddai myfyrwyr sy'n newydd i TG yn elwa o hyfforddiant CompTIA, gan ei fod yn helpu amlygu eich CV o blith eich cystadleuwyr ac yn eich paratoi i weithio yn y diwydiant TG.

Byddai gweithwyr TG proffesiynol presennol yn elwa o hyfforddiant CompTIA gan ei fod yn eich helpu i ddiweddaru eich gwybodaeth ac yn agor cyfleoedd gyrfa ychwanegol.

https://www.e-careers.com/courses/preparing-for-comptia-network-certification-exam

Gofynion mynediad

Tystysgrif CompTIA A+ ac o leiaf 9 i 12 mis o brofiad ymarferol yn gweithio mewn swydd gweinyddwr rhwydwaith / technegydd cefnogi rhwydwaith.

Cyflwyniad

Wedi'i gyflwyno ar-lein fel ystafell ddosbarth rithwir.

Cyflwynir y cwrs hwn gan ein partner, eCareers

Asesiad

Arholiadau ar-lein swyddogol sy'n cael eu goruchwylio,

Dilyniant

Gyda thystysgrif CompTIA Network+ gallwch ddechrau ar yrfa ym maes TG mewn amrywiaeth eang o swyddi Gweinyddydd, Technegydd a Pheiriannydd.

Mae Tystysgrif CompTIA Network+ yn arwain at swyddi megis:

  • Peiriannydd Maes Rhwydwaith – £35k
  • Arbenigwr Cefnogi Rhwydweithiau - £35k
  • Dadansoddwr Rhwydweithiau - £42k
  • Peiriannydd Systemau - £45k
  • Peiriannydd Rhwydwaith Iau - £52k

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Cyfrifiadura, Thechnolegau Digidol a Datblygu Gemau